Maverick
Label recordiau Americanaidd ydy'r Maverick Records, sy'n rhan o'r cwmni adloniant, Maverick. Mae'r cwmni'n eiddo i'r Warner Music Group ac yn cael ei ddosbarthu trwy Warner Bros. Records.
Enghraifft o'r canlynol | label recordio |
---|---|
Daeth i ben | 2007 |
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Gweithredwr | Maverick |
Sylfaenydd | Madonna, Freddy DeMann |
Pencadlys | Beverly Hills |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | http://maverick.com/ |
Hanes y Cwmni
golyguSefydlwyd Maverick Records gan Madonna, Frederick DeMann, Ronnie Dashev a Time Warner yn Ebrill 1992 fel rhan o'r cwmni adloniant Maverick. Mae'n gwmni sydd a swyddfeydd ar ddau arfordir yr Unol Daleithiau yn Ninas Efrog Newydd ac yn Los Angeles. Mae'r elfen cwmni recordiau Maverick yn cynnwys Maverick Musica (label lloeren a leolir ym Miami, Florida sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth Latino-Americanaidd) a Maverick Music (sy'n canolbwyntio ar gyhoeddi.)
Cafodd DeMann ei brynu allan o'r cwmni am $20 miliwn yn ôl y sôn ym 1998 a chynyddodd Guy Oseary ei siâr yn y cwmni gan gymryd rheolaeth o'r cwmni fel Cadeirydd ac Uwch-Gyfarwyddwr. Mae Maverick wedi cael llwyddiannau amlwg gan gynnwys Alanis Morissette, Michelle Branch, The Prodigy, Candlebox a'r band Deftones. Cafodd y label lwyddiannau hefyd gydag albymau a oedd yn cyd-fynd â ffilmiau fel The Wedding Singer, Jackie Brown a The Matrix. Yn ogystal â hyn, mae A Band Apart gan Quentin Tarantino yn cael ei ddosbarthu gan Maverick hefyd.