Meddalwedd
(Ailgyfeiriad o Meddalwedd cyfrifiadurol)
Mae meddalwedd yn derm cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio casgliad o raglenni cyfrifiadurol, gweithdrefnau a dogfenni sy'n perfformio tasgiau ar system cyfrifiadur. Mae'r term yn cynnwys meddalwedd cymhwysiad megis prosesydd geiriau sy'n perfformio tasgiau cynhyrchiol ar gyfer defnyddwyr, meddalwedd system megis systemau gweithredu, sy'n rhyngwynebu gyda chaledwedd i ddarparu'r gwasanaethau angenrheidiol ar gyfer meddalwedd cymhwysiad, a chanolwedd sy'n rheoli a chyd-lynnu'r systemau darparu.
Enghraifft o'r canlynol | categori o gynhyrchion |
---|---|
Math | gwaith creadigol, gwaith ysgrifenedig, dull, cynnyrch |
Y gwrthwyneb | caledwedd |
Rhan o | cyfrifiadur |
Yn cynnwys | Rhaglen gyfrifiadurol, data |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |