Meddylfryd twf
meddylfryd a ddiffiniwyd gan Carol Dweck
Cyfeiria meddylfryd twf at athroniaeth a gyflwynwyd gan yr Athro Carol Dweck ynglŷn â sut mae unigolyn yn gallu cynyddu ei ddeallusrwydd personol trwy ei ymddygiad.
Yn ôl yr ysgolhaig Carol Dweck, gellir gosod unigolion ar gontiniwm yn seiliedig ar eu credoau personol ynglŷn ag o ble y daw ein gallu. Dywed Dweck y gellir categoreiddio unigolion i un o ddau feddylfryd gwahanol sef "meddylfryd twf" a "meddylfryd sefydlog" (Fixed mindset and growth mindset). Seilir y categoriau hyn ar ymateb yr unigolyn i fethiant. Mae pobl sydd a meddylfryd sefydlog yn gweld methiant fel canlyniad i ddiffyg gallu naturiol, tra bod rheiny sydd a meddylfryd twf yn credu y gall unrhyw un feithrin sgil penodol cyn belled a'u bod yn buddsoddi ymdrech ac amser.