Troswr sy'n troi sain yn signal electronig yw microffon, sydd hefyd yn cael ei alw yn meic.[1]

Meicroffon deinamig Sennheiser

Mae meicroffonau yn cael eu defnyddio mewn nifer o ddyfeisiadau fel teleffonau, cynorthwywyr clyw, systemau cyfarch y cyhoedd ar gyfer neuaddau cyngerdd a digwyddiadau cyhoeddus, cynyrchiadau ffilm, peirianyddiaeth sain yn fyw ac wedi'i recordio, recordio sain, radios dwy ffordd, megaffonau, darlledu radio a theledu, ac mewn cyfrifiaduron ar gyfer recordio llais, adnabod llais, VoIP, ac ar gyfer dibenion an-acwstig fel synhwyryddion uwch-sonig a synhwyryddion cnoc.

Mae nifer o wahanol fathau o feicroffonau i'w cael, sy'n defnyddio gwahanol ddulliau i drosi amrywiadau mewn pwysedd aer sain yn signal electronig. Y mwyaf cyffredin yw'r meiroffon deinamig, sy'n defnyddio torch o wifren mewn maes magnetig; meicroffon cyddwysol, sy'n defnyddio'r deiaffram sy'n digrynu fel plat cynhwysiant trydanol, a'r meicroffon piezoelectrig, sy'n defnyddio crisial o ddeunydd piezoelectrig. Mae fel arfer angen cysylltu meicroffonau i ragfwyhäwr cyn y gall signal gael ei recordio neu atgynhyrchu.

Cyfeiriadau golygu

  1. Zimmer, Ben (29 Gorffennaf 2010). "How Should 'Microphone' be Abbreviated?". The New York Times. Cyrchwyd 10 Medi 2010.