Meistr Cerddoriaeth y Brenin

Swyddog y teulu brenhinol y Deyrnas Unedig yw Meistr Cerddoriaeth y Brenin (Saesneg: Master of the King's Music) neu Meistr Cerddoriaeth y Frenhines (Saesneg: Master of the Queen's Music).

Crewyd y swydd yn ystod teyrnasiad Siarl I. Yn wreiddiol, roedd y swyddog yn gyfrifol am y gerddoriaeth seciwlar y llys brenhinol, ond ers 1893 mae'r swydd wedi cael ei rhoi i gyfansoddwr amlwg, a fydd yn ysgrifennu gweithiau ar gyfer achlysuron brenhinol. Cyn 2004 roedd y swydd yn benodiad am oes; ers hynny mae wedi bod am gyfnod penodol o ddeng mlynedd.

Mae'r swydd yn cyfateb yn y byd cerddorol i'r Bardd Llawryfog (Poet Laureate) yn y byd llenyddol.

Deiliaid y swydd golygu