Melissa Rosenberg

sgriptiwr ffilm a aned ym Marin County yn 1962

Awdures-sgrîn Americanaidd yw Melissa Rosenberg (ganwyd 28 Awst 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur.[1][2]

Melissa Rosenberg
GanwydMelissa Anne Rosenberg Edit this on Wikidata
28 Awst 1962 Edit this on Wikidata
Marin County Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Bennington
  • Ysgol USC yn y Celfyddydau Sinematig Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, cynhyrchydd teledu, showrunner, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
PriodLev L. Spiro Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Marin County, California ar 28 Awst 1962. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol De California, Prifysgol Bennington ac Ysgol USC yn y Celfyddydau Sinematig.[3][4] Priododd Lev L. Spiro. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Step Up, Dexter, Twilight, The Twilight Saga: New Moon, The Twilight Saga: Eclipse, The Twilight Saga: Breaking Dawn – Part 1 a The Twilight Saga: Breaking Dawn – Part 2.[5][6]

Mae wedi gweithio yhn y byd ffilm a theledu ac wedi ennill Gwobr Peabody. Mae hefyd wedi cael ei henwebu ar gyfer dwy Wobr Emmy, a dau Wobr Urdd Awduron America (Writers Guild of America Award). Ers ymuno ag Urdd Awduron America, mae wedi bod yn rhan o'i bwrdd cyfarwyddwyr ac roedd yn gapten streic yn ystod streic Urdd Awduron America 2007-2008. Mae'n cefnogi ysgrifenwyr-sgrîn benywaidd drwy Bwyllgor Amrywiaeth y WGA (WGA Diversity Committee) ac yn gyd-sefydlydd League of Hollywood Women Writers.

Magwraeth

golygu

Tad Melissa Rosenberg yw Jack Lee Rosenberg, seicotherapydd a sylfaenydd seicotherapi corff integreiddiol (integrative body psychotherapy). Ei mam oedd Patricia Rosenberg, cyfreithiwr. Melissa oedd yr ail o bedwar o blant o briodas gyntaf ei thad. Mae brawd Melissa, Steven, yn berchen ar siop flodau yn Manhattan. Roedd tad Rosenberg yn Iddew, ac roedd ei mam o gefndir Catholig-Gwyddelig.[7][8]

Bu farw mam Rosenberg pan oedd yn ei harddegau, ar ôl i'w thad ailbriodi â Lynn MacCuish; yn ddiweddarach priododd eto â chyd-therapydd Beverly Kitaen-Morse. Mae ganddi chwaer hŷn, Andrea (ganed 1960), brawd a chwaer iau Erik a K. C. (efeilliaid, ganed 1963), a hanner chwaer iau, Mariya (ganwyd 1981), gan ail wraig ei thad. Mae Rosenberg yn byw yn Los Angeles gyda'i gŵr Lev L. Spiro, cyfarwyddwr teledu.[2][9][10]

Anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dawes, Amy (Rhagfyr 2008). "The XX Factor". Creative Screenwriting Magazine.
  2. 2.0 2.1 Itten, Theodor; Fischer, Martin (ed.) (2002). Jack Lee Rosenberg: Celebrating a Master Psychotherapist. Itten Books. ISBN 3-9522485-0-9.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text: authors list (link)
  3. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  7. Berrin, Danielle (Tachwedd 12, 2009). "Jewish Screenwriter Pens 'Kosher' Vampires for 'Twilight'". Cleveland Jewish News. Her father, Jack Lee Rosenberg, is a prominent psychotherapist; her mother, Patricia, who was raised Irish Catholic, died when the future screenwriter was a teenager
  8. "Screenwriter Melissa Rosenberg '86 crafts sharp characters for film and TV". Bennington College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-27. Cyrchwyd 2008-09-08. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. Eramo, Steven (Medi 1997). "Dark Tales". Xposé 1 (14): 50–53.
  10. Wagner Apfelbach, Paula (2001). "Alumni News". University of Wisconsin–Madison. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-02. Cyrchwyd 2008-12-26. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)