Merionethshire (Cambridge County Geographies)

Merionethshire yw'r gyfrol yn y gyfres Cambridge County Geographies sy'n ymdrin â'r hen Sir Feirionnydd.[1]

Map o Sir Feirionnydd allan o'r llyfr

Cefndir golygu

Wedi eu cyhoeddi yn wreiddiol yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, cynlluniwyd Cambridge County Geographies i ddarparu cyfres o ganllawiau cryno i rai o siroedd Cymru, Yr Alban a Lloegr. Wedi'u hanelu at y darllenydd cyffredinol, fe wnaethant gyfuno dull cynhwysfawr o ymdrin ag amrywiol agweddau ar ddaearyddiaeth gorfforol a dynol gyda phwyslais ar eglurder. Mae'r llyfrau yn frith o ffotograffau, mapiau a graffiau. Ysgrifennwyd y gyfrol am Sir Feirionnydd gan Abraham Morris ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1913 gan Wasg Brifysgol Caergrawnt. Ailgyhoeddwyd y gyfrol yn 2013,[2] mae'r ailgyhoeddiad dal mewn print. Mae modd darllen y gyfrol wreiddiol ar wefan Internet Archive.[3]

Cynnwys golygu

Mae'r llyfr yn cynnwys 24 pennod sy'n ymdrin â tharddiad ac ystyr yr enw Meirionnydd; nodweddion cyffredinol y sir a'i afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd. Mae'r gyfrol yn ymdrin â hanes pensaernïaeth, enwogion a hynafiaethau'r sir yn ogystal â thrafodaeth am hil, iaith a phoblogaeth. Mae penodau am ddaeareg, hanes naturiol, hinsawdd a diwydiant. Mae hefyd rhestr gyda pharagraff am holl drefi a phentrefi Meirion.

Penodau golygu

Dyma restr o benodau'r gyfrol

  1. County and Shire The name Merionethshire. Its Origin and Meaning
  2. General Characteristics
  3. Size. Shape. Boundaries
  4. Surface and General Features
  5. Watershed. Rivers
  6. Lakes
  7. Geology
  8. Natural History
  9. The Coast-line
  10. Climate
  11. People Race, Dialect, and Population
  12. Agriculture Main Cultivations, Woodlands, Stock
  13. Industries and Manufactures
  14. Fisheries and Fishing Stations
  15. History of Merionethshire
  16. History Later Times
  17. Antiquities
  18. Architecture (a) Ecclesiastical. Churches and Abbeys
  19. Architecture (b) Military. Castles
  20. Architecture (c) Domestic. Famous Seats. Manor Houses, Farms, Cottages
  21. Communications Past and Present
  22. Administration and Divisions Ancient and Modern
  23. The Roll of Honour of the County
  24. The Chief Towns and Villages of Merionethshire

Cyfeiriadau golygu

  1. Morris, Abraham (1913). Merionethshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.
  2. Morris, A. (2012). Merionethshire. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-1-107-62928-8. OCLC 806493606.
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.