Metabolaeth

Adwaith cemegol sy'n digwydd mewn organebau byw er mwyn cynnal bywyd ydy metabolaeth. Mae'r prosesau hyn yn caniatau i organebau dyfu ac atgenhedlu, cynnal eu strwythurau ac ymateb i'w hamgylchedd. Gan amlaf, rhennir metabolaeth i ddau gategori. Mae catabolaeth yn torri mater organig, er enghraifft er mwyn elwa ar egni mewn resbiradaeth gellog. Defnyddia anabolaeth egni er mwyn adeiladu cydrannau'r celloedd megis protinau ac asid niwclëig.

Strwythur y cydensym adenosin triffosffad, rhyngolyn canolog yn metabolaeth egni
Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.