Mihangel VIII Palaiologos
Ymerawdwr Bysantaidd o 1259 hyd 1282 oedd Mihangel VIII Palaiologos neu Palaeologus (Groeg: Μιχαήλ Η΄ Παλαιολόγος, Mikhaēl VIII Palaiologos (1223 - 11 Rhagfyr, 1282). Roedd yn llywodraethwr Ymerodraeth Nicaea yn wreiddiol, ond dan ei deyrnasiad ef, ail-gipiwyd dinas Caergystennin, gan adfer yr Ymerodraeth Fysantaidd. Ef oedd sefydlydd Brenhinllin y Palaiologiaid, a lywodraethodd yr ymerodraeth hyd ei chwymp yn 1453.
Mihangel VIII Palaiologos | |
---|---|
Ganwyd | 1224 Ymerodraeth Nicea |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1282 Thrace |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd, Ymerodraeth Nicea |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd |
Tad | Andronikos Palaiologos |
Mam | Theodora Angelina Palaiologina |
Priod | Theodora Palaiologina |
Partner | Diplovatatzina |
Plant | Manuel Palaiologos, Andronikos II Palaiologos, Konstantinos Palaiologos, Irene Palaiologina, Anna Palaiologina, Eudokia Palaiologina, Theodorus Palaiologos, Euphrosyne Palaiologina, Maria Palaiologina |
Llinach | Palaiologos |
Roedd Mihangel yn aelod o un o deuluoedd mwyaf bonheddig yr ymerodraeth. Yn fuan ar ôl marwolaeth yr ymerawdwr Theodore II Doukas Laskaris yn 1258, daeth yn raglaw dros yr ymerawdwr ieuanc Ioan IV Doukas Laskaris, yna yn 1259 yn gyd-ymerawdwr.
Ar 25 Gorffennaf, 1261, llwyddodd cadfridog Mihangel VIII, Alexios Strategopoulos, i ennill dinas Caergystennin yn ôl oddi wrth olynwyr y croesgadwyr, gan ail-greu'r Ymerodraeth Fysantaidd. Yn Awst yr un flwyddyn, dallwyd Ioan IV, a'i yrru i fynachlog.