Mill Hill, Shoreham
Gwarchodfa Natur Leol o 13.5 hectar (33 erw) ar lethrau'r Twyni Deheuol yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Mill Hill. Saif ar gyrion gogleddol tref Shoreham-by-Sea. Mae'n eiddo i Gyngor Dosbarth Adur a Worthing ac yn cael ei reoli gan y cyngor a Chyd-bwyllgor South Downs.[1][2]
![]() | |
Math | gwarchodfa natur ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 50.853°N 0.281°W ![]() |
Cod OS | TQ 211073 ![]() |
![]() | |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0a/Enwau%2C_y_Ganrhi_goch_-2.jpg/220px-Enwau%2C_y_Ganrhi_goch_-2.jpg)
Mae gan y safle hwn laswelltir calch, prysgwydd a choetir eilaidd. Mae'n un o'r ardaloedd gorau yn Sussex ar gyfer glöynnod byw, gyda 29 o rywogaethau wedi'u cofnodi, gan gynnwys y Glesyn Adonis . Mae mwy na 160 o rywogaethau o blanhigion blodeuol wedi’u cofnodi, fel y ffacbysen bedol (Hippocrepis comosa) [1], pig yr ran y weirglodd (Geranium pratense), y ganhri goch (Centaurium erythraea), y bengaled fawr (Centaurea scabiosa), ac ysgallen ddigoes (Cirsium acaulon).
Mae mynediad o'r ffordd o'r enw Mill Hill.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Mill Hill LNR, Natural England;adalwyd 9 Gorffennaf 2023
- ↑ Map, Natural England; adalwyd 9 Gorffennaf 2023