Moel Cynghorion
Mae Moel Cynghorion neu Moel y Cynghorion yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Daw ei enw o'r hen air Cymraeg cynnor, sy'n golygu 'cyntaf' neu 'sylfaenol'; felly y foel cyntaf mewn golwg wrth nesau at yr Wyddfa.[1] Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, yr agosaf i gopa'r Wyddfa o gadwyn o fryniau; y lleill yw Foel Goch, Foel Gron, a Moel Eilio. Mae Bwlch Cwm Brwynog yn ei wahanu oddi wrth yr Wyddfa ei hun a Bwlch Maesgwm yn ei wahanu oddi wrth y copa nesaf, Foel Goch.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 674 metr |
Cyfesurynnau | 53.0851°N 4.1127°W |
Cod OS | SH5861056395 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 176 metr |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau. Un ffordd yw dilyn Llwybr Llyn Cwellyn tua chopa'r Wyddfa hyd at Fwlch Cwm Brwynog ac yna troi i'r chwith i ddilyn y llwybr i gopa Moel Cynghorion. Gellir hefyd ddringo Moel Eilio gyntaf a cherdded ar hyd y grib.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Iwan Arfon (1998). Enwau Eryri = Place-names in Snowdonia (arg. Arg. 1). Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. ISBN 0-86243-374-6. OCLC 38591003.