Cerdd ar ffurf soned gan y Prifardd T. H. Parry Williams yw Moelni.

Mae'r gerdd yn enwog ac yn un y gall llawer o Gymry Cymraeg uniaethu â hi oherwydd ei chyffyrddiad â sawl thema, er enghraifft cariad at fro mebyd ac ystyr tragwyddoldeb. Mae'r bardd yn ceisio symud y darllenydd gyda'i gerdd a gwneud iddynt uniaethu â'i safbwynt. Mae'n trafod y berthynas rhwng bywyd a marwolaeth ac yn cwestiynu a fydd yn bodoli mewn rhyw ffurf ar ôl iddo farw.

Agwedd y Bardd golygu

Mae'r soned wedi'i rhannu yn chwechawd ac yn wythawd. Yn yr wythawd, mae'r bardd yn trafod ei blentyndod yn Eryri ac yn lleoli'r gerdd. Fe gawn folta yn llinell wyth, sy'n newid awyrgylch y gerdd gan fod y bardd yn dechrau cwestiynu tragwyddoldeb a thrafod a oes bywyd ar ôl marwolaeth. Fe ddaw'r gerdd i uchafbwynt yn y darn hwn. Yn dilyn yr wythawd negyddol i ddechrau'r gerdd, mae'r chwechawd yn llawer mwy gobeithiol ac yn dangos nad yw'r bardd wedi colli ei holl ffydd.

Dyfyniadau Pwysig golygu

"Nid oedd ond llymder anial byd di-goed."

"Ac os bydd peth o'm defnydd yn y byd."

"Ni welir arno lun na chynllun chwaith, dim ond amlinell lom y moelni maith."

Y Bardd golygu

T.H. Parry-Williams yw un o feirdd Cymraeg enwocaf yr ugeinfed ganrif, roedd ei farn a'i safbwyntiau yn cael eu dangos yn glir yn ei gerddi, fel sydd i'w weld yn y gerdd hon. Mae'r bardd yn cyfeirio at ei fagwraeth yn Eryri yn sawl un o'i gerddi, a dyna wnaeth ei ysbrydoli i ysgrifennu'r gerdd hon.