Monsanto
Cwmni rhyngwladol Americanaidd yw Monsanto, sy'n arbenigo ym maes biotechnoleg amaethyddol. Ef yw prif gynhyrchwr chwynladdwyr glyphosate y byd, sy'n marchnata ei gynnyrch gyda'r brand "Roundup". Monsanto hefyd yw prif gynhyrchwr had sydd wedi cael ei beiriannu'n genetig, maent yn dal 70%–100% o'r farchnad ar gyfer cnydau masnachol. Mae'r cwmni Agracetus, sy'n is-gwmni i Monsanto, yn cynhyrchu had ffa soia Roundup Ready ar gyfer y farchnad masnachol. Ym mis Mawrth 2005, prynodd y cwmni Seminis Inc, a ddaeth i fod y cwmni had confensiynol mwyaf y byd. Maent yn cyflogi dros 18,800 o bobl yn fyd-eang, ac roedd ganddynt gyllid blynyddol o USD$8.563 biliwn yn 2007.[1]
Math | corfforaeth amlieithog |
---|---|
ISIN | US61166W1018 |
Diwydiant | amaeth, biotechnoleg |
Sefydlwyd | 1901 |
Sefydlydd | John Francis Queeny |
Daeth i ben | 7 Mehefin 2018 |
Pencadlys | Creve Coeur |
Pobl allweddol | John Francis Queeny (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | hadau |
Refeniw | 15,000,000,000 $ (UDA) (2015) |
Perchnogion | Bayer |
Nifer a gyflogir | 25,500 (2015) |
Rhiant-gwmni | Bayer |
Is gwmni/au | Monsanto Canada |
Lle ffurfio | St. Louis |
Gwefan | https://monsanto.com/ |
Mae datblygiad had sydd wedi ei beiriannu'n genetig a hormon twf gwartheg gan Monsanto, yn ogystal a'i ymarferion ymosodol o ymgyfreithio a lobïo gwleidyddol, wedi gwneud y cwmni'n ddadleuol yn fyd eang ac yn darged ar gyfer ymgyrchwyr y mudiad gwrth-globaleiddio ac ymgyrchwyr amgylcheddol, ond mae technoleg had Roundup Ready wedi galluogi ffermwyr i dyfu cnydau heb orfod trin y tir, ac mae Cotwm Bollgard wedi lleihau defnydd chwynladdwyr ar gaeau cotwm o tua 80%.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Google Finance: Monsanto Company