Rhaglen gomedi boblogaidd o Iwerddon ydy Mrs. Brown's Boys, wedi ei chreu a'i sgriptio gan y Gwyddel Brendan O'Carroll, sydd hefyd yn serennu ynddi fel actor. Fe'i cynhyrchwyd gan BBC Scotland mewn partneriaeth gyda BocPix ac RTÉ. Dyn, ac ator drag, ydy O'Carroll ac ef sy'n chwarae rhan Mrs Brown, seren y comedi. Mae'r rhan fwyaf o'r actorion eraill naill ai'n ffrindiau neu'n aelodau o'i deulu.

Mrs. Brown's Boys
GenreComedi
Crëwyd ganBrendan O'Carroll
Ysgrifennwyd ganBrendan O'Carroll
Cyfarwyddwyd ganBen Kellett
Yn serennuBrendan O'Carroll
Jennifer Gibney
Paddy Houlihan
Fiona O'Carroll
Danny O'Carroll
Eilish O'Carroll
Pat Shields
Amanda Woods
Rory Cowan
Gary Hollywood
Dermot O'Neill
Fiona Gibney
Susie Blake (Cyfres 2–)
Cyfansoddwr themaAndy O'Callaghan
GwladIwerddon
Iaith wreiddiolSaesneg
Nifer o gyfresi3 (+9 Rhifyn Arbennig)
Nifer o benodau27 (rhestr penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyrBBC Stephen McCrum, Mark Freeland, James Farrell, Ewan Angus; RTÉ Justin Healy, BOC-PIX Martin Delaney, Conor Gibney, Fiona Gibney, Mark Sheridan, Gareth Woods, Marian Sheridan, Simon Carty
Golygydd(ion)Mark Lawrence
Lleoliad(au)BBC Pacific Quay
Hyd y rhaglen30 munud
35 munud (2013 Rhifyn Nadolig, 2014–15 Arbennig)
40 munud (2013 Rhifyn Arbennig y Flwyddyn Newydd, 2015–16 Rhifynnau Arbennig)
Cwmni cynhyrchuBBC Scotland
BOC-PIX
RTÉ
DosbarthwrNBCUniversal Television Distribution (Gogledd America)
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolRTÉ One
BBC One
Fformat y llun16:9
576i (SDTV)
1080i (HDTV)
Darlledwyd yn wreiddiol1 Ionawr 2011 (2011-01-01) – Presennol
Dolennau allanol
Mrs. Brown's Boys at the BBC

Ceir arddull anffurfiol, ffwrdd-a-hi, ble dangosir nifer o 'gangymeriadau' neu linellau byr-fyfyr nad ydynt yn y sgript, sy'n gwneud y rhaglen yn ffres ac yn wahanol i'r rhelyw. Mae llawer o feirniaid wedi bod yn llawdrwm iawn o'r rhaglen e.e. barn The Metro oedd ei bod "not even remotely funny", gan fynegi y dylai'r BBC "hang its head in shame" am ei dangos.[1] Er hyn, mae'r niferoedd sy'n ei gwylio yn profi ei bod yn un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd sawl gwlad, gyda gwledydd Prydain, Iwerddon, Awstralia a Chanada ymhlith y gwledydd sydd â'r mwyaf o wylwyr. Mae teledu Unol Daleithiau America'n gwrthod ei dangos gan fod ynddi lawer o regfeydd. Enillodd Mrs Brown's Boys lawer o wobrau dros y blynyddoedd diwethaf.

Trosolwg golygu

Cyfres Pennod Darlledwyd yn gyntaf Nifer cyfartalog o wylwyr (DU)
(miliwn)
Darllediad cyntaf Darllediad olaf
Pennod 1 (2011) 6 21 Chwefror 2011 28 Mawrth 2011 3.00
Rhifyn Arbennig (2011) 1 26 Rhagfyr 2011 8.24
Pennod 2 (2012) 6 2 Ionawr 2012 6 Chwefror 2012 6.98
Rhifyn Arbennig (2012) 2 24 Rhagfyr 2012 26 Rhagfyr 2012 11.20
Pennod 3 (2013) 6 1 Ionawr 2013 4 Chwefror 2013 9.41
Rhifyn Arbennig (2013) 2 25 Rhagfyr 2013 30 Rhagfyr 2013 11.40
Rhifyn Arbennig (2014–15) 2 25 Rhagfyr 2014 1 Ionawr 2015 9.76
Rhifyn Arbennig (2015–16) 2 25 Rhagfyr 2015 1 Ionawr 2016[2] TBA
Rhifyn Arbennig Byw (2016) 1 Haf 2016 TBA


Rhyddhawyd Mrs. Brown's Boys yn wreiddiol ar RTÉ 2fm, sef gorsaf radio Gwyddelig, yn 1992, ac yna fel cyfres o lyfrau, gan Brendan O'Carroll yng nghanol y 1990au.[3][4] Teitlau'r llyfrau unigol oedd: The Mammy, The Chisellers, The Granny, a The Young Wan, ac fe'u cyhoeddwyd yn Iwerddon cyn iddynt gael eu cyhoeddi yng ngwledydd Prydain.[5]

Datblygodd y gyfres sitcom yn araf dros nifer o flynyddoedd; roedd ei gwreiddiau yn nechrau 1999, gyda'r prif gymeriad Agnes Browne yn ymddangos yn wreiddiol fel drama lwyfan ac yna drama radio, llyfrau a DVDs.

Ar gyfer y sitcom, talfyrwyd yr enw 'Browne' i 'Brown'. Mae'r dramau llwyfan wedi parhau hyd at y presennol, gydag ymweliadau ag Awstralia yn 2014. Cyhoeddwyd ffilm Mrs. Brown's Boys D'Movie, ar 27 Mehefin 2015.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mrs Brown's Boys was just jaw-droppingly past its sell-by date". The Metro. 21 Chwefror 2011. Cyrchwyd 24 Mehefin 2014.
  2. bbc.co.uk; adalwyd 3 Ionawr 2016
  3. Ring, Evelyn (26 November 2011). "'Mad' success for Mrs Brown". Irish Examiner. Cyrchwyd 30 September 2012.
  4. "The Cafe". RTÉ News. 20 December 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-02. Cyrchwyd 2016-01-03.
  5. "Brendan O'Carroll: O'Brien Press Author". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-13. Cyrchwyd 2016-01-03.
  6. "Mrs Brown's Boys D'Movie". BBC Films. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-05. Cyrchwyd 25 Mawrth 2014.