Mynydd sanctaidd a gorynys yng Ngwlad Groeg sy'n gartref i nifer o fynachlogydd yr Eglwys Uniongred ac a reolir fel math o weriniaeth fynachol o fewn Groeg yw Mynydd Athos (Groeg: Άγιο Όρος Ayio[n] Oros, "Y Mynydd Sanctaidd"). Mae isthmws o dir isel yn ei gysylltu â'r tir mawr. Dominyddir y gorynys gan gopaon Mynydd Athos ei hun. sy'n cyrraedd 6670 troedfedd. Fe'i lleolir yn Halkidiki, talaith Macedonia, yng ngogledd Gwlad Groeg. Dim ond dynion sy'n gallu mynd yno ac mae hyd yn oed anifeiliaid benywaidd yn cael eu gwahardd.

Mynydd Athos
Mathmynydd Edit this on Wikidata
PrifddinasKaryes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sirmonastic community of Mount Athos Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd33,042 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,033 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.1583°N 24.3272°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd2,012 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Mynydd Athos o'r môr
Mynachlog Agiou Pavlou, Mynydd Athos
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato