Mynydd Rhiw

bryn (304m) yng Ngwynedd

Mynydd isel neu fryn yn ne-orllewin Llŷn, Gwynedd, yw Mynydd Rhiw (cyfeiriad grid SH2329). Gorwedd ei gopa 305 medr i fyny.; cyfeiriad grid SH228293. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 64 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mynydd Rhiw
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr304 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8333°N 4.6333°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH2285029392 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd240 metr Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd Mynydd Rhiw ar arfordir de-orllewin penrhyn Llŷn, tua hanner ffordd rhwng Aberdaron ac Abersoch. Wrth droed y mynydd i'r de ceir pentref Rhiw gyda phlasdy enwog Plas-yn-Rhiw gerllaw. Disgyn llethrau'r mynydd yn bur serth i'r môr ym mhen gorllewinol Porth Neigwl, a cheir golygfeydd da dros y bae hwnnw o'r llethrau uchaf.

Ceir mast radar ar gopa Mynydd Rhiw, ond er hynny mae rhan helaeth y mynydd yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn dirlun arbennig o hardd.

Cyfeiria'r bardd R. S. Thomas at y mynydd yn ei lyfrau Blwyddyn yn Llŷn a Neb.

Ceir lwybrau i ben y mynydd o sawl pwynt, yn cynnwys pentref Rhiw.

Y copa

golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 304m (997tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Archaeoleg

golygu

Ceir amddiffynfa fach Castell Caeron, sy'n dyddio o Oes yr Haearn yn ôl pob tebyg, ar lethr ogledd-orllewinol Mynydd Rhiw.

Gweler hefyd

golygu

Dolennau allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu