Sefydliwyd Mynyddoedd Pawb yn 2013 gyda'r nod o ymgyrchu i gynyddu'r ymwybyddiaeth o'r dreftadaeth Gymraeg yn y diwydiant awyr agored. Yn dilyn trafodaethau ar ddiwedd cynhadleoedd a gynhaliwyd yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, aed â deiseb i'r Cynulliad yn 2015 yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg er mwyn:

  1. ysgogi parch a diddordeb yn yr iaith Gymraeg ac i sicrhau a chynyddu'r defnydd ohoni.
  2. cynyddu'r ymdeimlad o hunaniaeth ymysg cymunedau lleol fel y gallant werthfawrogi a rhannu cyfoeth ein treftadaeth ddiwylliannol gydag eraill.
  3. ennyn diddordeb a chodi ymwybyddiaeth ymwelwyr o gyfoeth ein treftadaeth leol a dod a buddion addysgiadol ac economaidd i ardaloedd.

Yn 2017 fe sicrhaodd Mynyddoedd Pawb grant Cymraeg 2050, grant sy'n cael ei roi i brosiectau sydd â photensial o gyfranu tuag at nôd y llywodraeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.[angen ffynhonnell]

Mynyddoedd Pawb, Cwmni Galactig a AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sy'n gyfrifol am yr ap realiti estynedig Tro.