Myoffibril
Uned sylfaenol o gyhyr ydy myofibril. Mae cyhyrau wedi'u gwneud o gelloedd tiwbaidd o'r enw myocytes neu myoffibrau. Mae Myoffibriliaid wedi'u gwneud i brotinau hir megis actin, myosin, a titin, a phrotinau eraill sy'n eu dal at ei gilydd. Mae'r protinau hyn wedi'u trefnu i mewn i ffilamentau tenau a ffilamentau trwchus, sy'n cael eu hailadrodd ar hyd y myoffibril i mewn i adrannau o'r enw sarcomerau. Mae cyhyrau yn cyfangu drwy lithro'r ffilamentau tenau (actin( a'r ffilamentau trwchus (myosin) ar hyd ei gilydd.
Mae echddygau actomyosin yn bwysig o ran cyfangiad cyhyrol (gan ddibynnu yn yr achos hwn ar "myosinau clasurol") yn ogystal â phrosesau eraill megis alldynnu pothellau pilennog, alldynnu ffiliopod a datblygiad iwropodiwm (gan ddibynnu ar "myosinau di-glasurol" yn yr achos hwn).