Mae'r National Broadcasting Company (NBC) yn rwydwaith deledu Americanaidd. Lleolir eu pencadlys yn yr Adeilad GE yng Nghanolfan Rockefeller yn Ninas Efrog Newydd. Weithiau cyfeirir at NBC fel Rhwydwaith y Paun oherwydd logo'r cwmni sy'n edrych fel plu paun.

NBC
Diwydiantcyfathrebu, y diwydiant cyfryngau
Sefydlwyd19 Mehefin 1926
SefydlyddRCA Corporation
Pencadlys30 Rockefeller Plaza
PerchnogionNBCUniversal
Rhiant-gwmni
NBCUniversal
Lle ffurfioDinas Efrog Newydd
Gwefanhttps://nbc.com Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd y cwmni ym 1926 gan Gorfforaeth Radio America ac NBC oedd y rhwydwaith ddarlledu mawr cyntaf yn yr Unol Daleithiau. Ym 1986, trosglwyddwyd rheolaeth o NBC i General Electric (GE) pan brynodd GE Gorfforaeth Radio America am $6.4 biliwn. Ar ôl hyn, uwch gyfarwyddwr NBC oedd Bob Wright nes iddo ymddeol a throsglwyddo'r awennau i Jeff Zucker. Ar hyn o bryd, mae'r rhwydwaith yn rhan o gwmni cyfryngol NBC Universal, sy'n rhan o General Electric a Vivendi.

Amcangyfrifir fod NBC ar gael mewn 112 miliwn o gartrefi, neu 98.6% o'r Unol Daleithiau.