Mae NDTV 24x7 yn un o sianeli teledu iaith Saesneg mwyaf India, sy'n perthyn i New Delhi Television Ltd (NDTV). Mae'n sianel annibynnol sydd y cynhyrchwr newyddion a materion cyfoes preifat mwyaf yn India. Mae'n darlledu 24 awr y dydd trwy'r wythnos (24x7). Enillodd Wobr Teledu Asia 'Sianel Newyddion Gorau' yn 2005.

NDTV 24x7
Enghraifft o'r canlynolsianel deledu, news broadcasting Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2003 Edit this on Wikidata
PerchennogNDTV Edit this on Wikidata
PencadlysDelhi Newydd Edit this on Wikidata
GwladwriaethIndia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ndtv.com/ Edit this on Wikidata

Mae gan NDTV 24x7 dîm o newyddiadurwyr teledu blaenllaw sy'n cynnwys Dr. Prannoy Roy a Barkha Dutt.

Yn ogystal â newyddion mae NDTV 24x7 yn cynhyrchu rhaglenni dogfen gwreiddiol ac adroddiadau arbennig.

Gellir gwylio NDTV 24x7 mewn sawl gwlad arall y tu allan i India, e.e. ar blatfform Sky Digital yng ngwledydd Prydain, ar DirecTV yn yr Unol Daleithiau, ar ATN yng Nghanada, Vision Asia yn Awstralia, ac yn Ewrop ar WorldTV.

Dolenni allanol golygu