Y Naiad (Ναϊάδες o'r Groeg νάειν, "llifo," a νἃμα, "dŵr rhedegog") oedd nymph, neu dduwes a oedd yn byw yn y dŵr, mewn afonydd, nentydd a ffynhonnau yng Ngroeg yr Henfyd. Roedd llawer ohonynt ac adnabyddir enwau rhai, megis yr Oceanidau a'r Nereidau.

Naiad, gan John William Waterhouse, 1893. Mae'r naiad Melite yn agosáu at Heracles, sy'n cysgu.