Darn o ddefnydd hirsgwar sy'n cael ei ddefnyddio wrth y bwrdd er mwyn sychu'r geg a'r bysedd tra'n bwyta yw napcyn. Mae fel arfer yn fychan ac wedi'i blygu, weithiau mewn dyluniadau a siapiau cymhleth. Daw'r gair Cymraeg o Saesneg Canol, a oedd wedi benthyg y gair Ffrangeg nappe—sef deunydd ar gyfer gorchuddio bwrdd—gyda'r -kin wedi'i ychwaengu fel olddodiad bachigol.

Napcyn wedi'i roli mewn modrwy napcyn

Defnyddiwyd napcynnau yn nyddiau'r Rhufeiniaid, ac mae'n debyg mai bara oedd yn cael ei ddefnyddio gan y Groegiaid i sychu eu dwylo.[1]

Mae cofnod o'r Tsieiniaid yn defnyddio napcynnau papur, wedi i bapur gael ei ddyfeisio yno yn yr ail ganrif CC.[2] Roedd napcynnau papur yn cael eu hadnabod fel chih pha, wedi'u plygu mewn sgwariau, ac yn cael eu defnyddio i weini te.

Cyfeiriadau golygu

  1. Oxford English Dictionary
  2. Tsien, Tsuen-Hsuin (1985). Paper and Printing. Joseph Needham, Science and Civilisation in China, Chemistry and Chemical Technology. 5 part 1. Cambridge University Press. p. 38.