Neges destun
Dyma'r term cyffredin am ddanfon neges fer - 160 llythyren / symbol neu lai o ffôn llaw i ffôn llaw drwy 'Short Messaging Service' sef SMS. Fe geir y cyfrwng hwn ar y rhan fwyaf o ffonau a rhai teclunau personol (y 'personal digital assistant'). Yn Saesneg fe'i gelwir yn text messages neu, ar lafar yn texts.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/86/Texting.jpg/260px-Texting.jpg)
Fel arfer, Mae'r iaith yn gael ei defnyddio yn neges destun yn fyrhau na'r iaith safonol, a felly mae'r iaith testun yn datblygu trwy defnyddio'r iaith go iawn trwy dull neges destun.
Hanes
golyguAnfonwyd y neges destun SMS gyntaf dros rwydwaith GSM Vodaphone yn y Deyrnas Unedig ar 3 Rhagfyr 1992. Neil Papworth o Sema Group (Mavenir Systems erbyn hyn) anfonodd y neges o gyfrifiadur personol i Richard Jarvis o Vodaphone, oedd yn defnyddio ffôn Orbitel 901. Testun y neges oedd "Merry Christmas".
Yn 2010, anfonwyd 6.1 triliwn neges destun, bron i 200,000 bob eiliad.[1]
Er fod defnydd SMS yn tyfu o hyd, yn gynyddol mae'n wynebu cystadleuaeth o wasanaethau eraill sydd ar gael ar ffônau clyfar.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) The World in 2010. Undeb Telegyfathrebu Rhyngwladol (ITU). Adalwyd ar 23 Tachwedd 2012.