Nepotiaeth

(Ailgyfeiriad o Neigaredd)

Ffafriaeth a roddir i berthnasau neu gyfeillion agos yw nepotiaeth, enwedig ynglŷn â swyddi. Mae'r geiriau neigarwch, neigaredd, neiedd a nepotistiaeth[1] yn golygu'r un peth.[2] Mae'r holl eiriau hyn yn deillio o "nai" (nipote yw'r gair Eidaleg am "nai"). Mae hyn yn digwydd oherwydd yn aml yn y gorffennol byddai pabau yn penodi eu neiant i ddal swyddi uchel yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, waeth beth oedd eu haddasrwydd ar gyfer y swyddi hynny.[3] Roedd yr arfer pabaidd wedi'i hen sefydlu am ganrifoedd, nes i Bab Innocentius XII gyhoeddi'r bwl Romanum decet pontificem ym 1692.

Nepotiaeth
Cyhuddwyd Donald Trump o nepotiaeth wedi iddo rhoi swyddi amlwg i'w ferch Ivanka Trump a'i gŵr hithau Jared Kushner
Mathcronyism Edit this on Wikidata

Mae'r math hwn o ffafriaeth tuag at berthnasau wedi'i gondemnio'n aml, ond mae'n dal i fod yn gyffredin mewn sawl gwlad ac mewn amrywiol feysydd, gan gynnwys busnes, gwleidyddiaeth, adloniant, chwaraeon a chrefydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2021-06-15.
  2. "In Praise of Nepotism: A Natural History". Adam Bellow Booknotes interview transcript (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2010. Cyrchwyd 10 Medi 2013.
  3. "Article nepos". CTCWeb Glossary (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Medi 2013.