Neil Roberts
Arlunydd a chyn-actor yw Neil Roberts. Yn blentyn bu'n chwarae rhan Nicw Nacw yn rhaglen deledu Sali Mali.
Neil Roberts | |
---|---|
Galwedigaeth | arlunydd, actor |
Mae Neil wedi bod yn creu gwaith celf ers ei gyfnod yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Cafodd ei waith dylunio ei roi ar westy Hotel Football ym Manceinion sef gwesty sy'n berchen i'r pêl-droedwyr Ryan Giggs, Paul Scholes, Nicky Butt, Phil Neville a Gary Neville. Lluniau syml yw'r rhain o beldroedwyr enwog, a mae'r darluniau wedi cael eu troi yn bapur wal ar gyfer waliau y gwesty.[1]
Mae Neil yn gefnogwyr brwd o Manceinion Unedig ers yn ifanc.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ O Gaffi Sali Mali i'r Café Football , BBC Cymru Fyw.