Agor y brif ddewislen

Wicipedia β

Nennius

Mynach o Gymru ac awdur yr Historia Brittonum

Cysylltir Nennius, neu Nemnivus (floreat efallai tua 800), a’r traethawd Lladin Historia Brittonum, sy’n ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes cynnar Cymru.

Cynnwys

Tystiolaeth amdanoGolygu

Mae cryn dipyn o amheuaeth ai Nennius oedd awdur yr Historia Britonum. Mae un teulu o lawysgrifau o’r testun yma yn ei briodoli i "Nennius, gostyngedig was a gweinidog Crist, trwy ras Duw, disgybl Elvodugus". Credir mai Elfodd (weithiau Elfoddw) oedd Elvodugus; mae cyfeiriadau ato yn yr Annales Cambriae yn perswadio eglwys Cymru i newid eu dull o benderfynu dyddiad y Pasg i gydymffurfio a gweddill yr eglwys Gatholig. Roedd hyn yn 768, ac yn nes ymlaen cyfeirir at farw Elfodd yn 809. Gellir casglu felly fod y Nennius yma yn ei flodau tua’r flwyddyn 800.

Yn ôl David N. Dumville dim ond un teulu o lawysgrifau sy’n priodoli yr Historia Britonum i Nennius, ac mae’r rhain i gyd yn deillio o lawysgrif o’r 11g, tra nad yw llawysgrifau sy’n deillio o ffynhonnell gynharach yn priodoli’r gwaith i Nennius.

Mae hefyd gofnod mewn llawysgrif Gymraeg o’r 9g am ysgolhaig o’r enw Nennius a atebodd gyhuddiad ysgolhaig Sacsonaidd nad oedd gan y Brythoniaid ei gwyddor eu hunain trwy ddyfeisio gwyddor yn y fan a’r lle. Nid oes sicrwydd a yw hwn yr un person â Nennius, disgybl Elfodd.

LlyfryddiaethGolygu

  • David N. Dumville, "Nennius and the Historia Brittonum", Studia Celtica, 10/11 (1975/6), 78-95
  • Nora K. Chadwick, "Early Culture and Learning in North Wales", Studies in the Early British Church (1958).
  • John Owen Jones (gol.), O Lygad y Ffynnon: cyfieithiadau o weithiau haneswyr boreuaf Cymru (Davies ac Evans, Y Bala, 1890)
  • John Morris (gol.), Nennius: British History, and The Welsh Annals (Phillimore, Llundain, 1980). Cyfres 'History from the Sources' (Lladin gwreiddiol a chyfieithiad Saesneg)

CyfeiriadauGolygu

Dolen allanolGolygu