Gwefan anifeiliaid anwes cyfrifiadurol yw Neopets, a grëwyd ar 15 Tachwedd 1999[1] gan Adam Powell a Donna Williams. Yn ystod Mehefin 2005, prynodd y cwmni Viacom y wefan, am $160,000,000.

Tudalen blaen y wefan Neopets

Mae Neopets yn cynnwys gêmau, siopau, ambell gystadleuaeth, NeoBoards ac adran premiwm. Mi fydd aelodau yn cael creu hyd at pedwar Neopet, ac yna cânt chwarae gyda nhw, eu bwydo nhw, a rhoi dillad arnynt gyda naill ai Neopoints neu Neocash.

Chwarae

golygu

Mae Neopets wedi'i osod yn y byd ffug Neopia, sy'n cynnwys sawl dinas gwahanol - gall aelodau ddewis y ddinas y maen nhw'n dymuno ymweld wrth glicio'r bwtwm explore ar y bar offer. Mae bron pob dinas yn cynnwys siopau a lliw nodweddol sydd yn gyfateb i'r ddinas - er enghraifft y lliw tylwyth teg ar gyfer Faerieland. Trwy gydol y gêm, bydd angen Neopoints ar yr aelod er mwyn prynu bwyd a nwyddau arall i'w anifail. Gall Neopoints gael eu hennill drwy chwarau'r gêmau ar y gwefan, ennill cystadleuaeth, y farchnad stoc, neu drwy brynu eitemau o'r siopau cyffredin ac yna eu hailwerthu am elw.

 
Enhgraifft o Neopet yn gwisgo dillad o'r NC Mall

Themâu

golygu

Fel arfer, bydd thema'r capsiwl yn seiliedig ar ŵyl megis y Nadolig neu'r Pasg. Weithiau bydd capsiwl yn cael ei ryddhau i ddathlu tymhorau'r haf neu'r hydref. Ceir hefyd gapsiwlau arbennig i ddathlu penblwyddi'r Neopets a'r Neocash Mall.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Neopets – About Us". Cyrchwyd 2007-04-27. The site was launched on November 15, 1999.