Niwmonitis hypersensitifedd
Mae Niwmonitis hypersensitifedd yn digwydd pan fydd yr ysgyfaint yn datblygu ymateb heintrydd–hypersensitifedd – i rywbeth a anadlwyd ac sy’n achosi llid ym meinwe’r ysgyfaint – niwmonitis. Mae ysgyfaint ffermwr yn un enghraifft. Mae hyn yn cael ei achosi drwy anadlu llwydni ('mowld') sy’n tyfu ar wair, graen a gwellt. Mae ysgyfaint colomennwr yn enghraifft arall, sy’n cael ei achosi drwy anadlu gronynnau o blu neu garthion adar. Mae llawer o sylweddau eraill a all achosi patrymau tebyg. Gall fod yn anodd iawn i ddod o hyd i’r union achos.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | occupational disease, clefyd interstitaidd yr ysgyfaint, alergedd, clefyd |
Symptomau | Oerni, allergic response, colli pwysau |
Achos | Pulmonary sensitization |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Symptomau
golyguGellir cael symptomau yn sydyn ar ôl dod i gysylltiad – peswch, colli anadl, gwres a phoen yn y cymalau. Dyma ffurf aciwt y cyflwr. Mi wnaiff ddiflannu heb arwain at ffibrosis yr ysgyfaint os gellir osgoi’r sylwedd a achosodd hyn am byth. Mewn achosion eraill, efallai’n raddol, dros lawer o flynyddoedd, y ceir symptomau diffyg anadl a pheswch, o ganlyniad i greithio ar yr ysgyfaint. Niwmonitis hypersensitifedd cronig, neu hirdymor, yw’r enw ar y ffurf hon ar y cyflwr. Yn aml, ni ellir dod o hyd i achos penodol iddo.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation. Am wybodaeth lawn gweler yr erthygl wreiddiol gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |