Cyfres o achosion yn seiliedig ar dir gan mwyaf yw niwsans, yn llygad y gyfraith. Ceir tri chategori eang o niwsans, sef cyhoeddus, preifat a statudol, a niwsans preifat yw'r un a ddefnyddir amlaf o gryn dipyn.

Mae niwsans preifat yn peri codi achos yng nghyfraith camwedd lle ceir ymyrryd anuniongyrchol gyda thir yr hawlydd - fel arfer drwy effeithio'n andwyol ar y defnydd neu'r mwynhad o'i eiddo - wedi'i achosi gan ddefnydd afresymol y diffynnydd o'i dir ei hun.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.