Niwsans cyhoeddus
Mae niwsans cyhoeddus yn gysyniad mewn cyfraith gyffredin sydd heb ddiffiniad eglur ond sy'n cwmpasu elfennau o gyfraith camwedd, trosedd a gweinyddol. Fe'i defnyddir yn aml i ddisgrifio nifer o bechodau lle mae gweithred anghyfreithlon neu fethiant esgeulus diffynnydd i gyflawni ymrwymiad cyfreithiol yn tarfu ar y drefn gyhoeddus neu'n peryglu bywyd, iechyd, eiddo neu foesau.
Ystyrir fel arfer bod niwsans cyhoeddus yn disgyn yn fwy i barthau cyfraith trosedd, yn hytrach na chyfreithau sifil, a phan y ceisir dibynnu arno mewn cyd-destun cyfraith camwedd mae gofyn i'r hawlydd ddangos ei fod ef neu hi yn bersonol wedi dioddef colledion arbennig sy'n pwyso mwy na'r anghyfleuster cyffredinol a ddioddefodd y cyhoedd o ganlyniad i weithredoedd y drwgweithredwr. Yng nghyfraith camwedd, defnyddir hyn gan amlaf yng nghyd-destun rhwystr ar briffordd.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.