Darn bach o bapur gyda stribyn gludiog ar ei gefn sy'n gallu cael ei ddefnyddio (a'i ailddefnyddio) i roi nodiadau ar ddogfennau neu arwynebau eraill yw nodyn Post-it (neu nodyn gludiog). Mae glud sy'n sensitif i bwysau yn gwneud y nodyn yn rhwydd i'w gysylltu, ei dynnu a'i ailosod yn rhywle arall heb adael gwaddod. Sgwariau melyn oedd y nodau yn wreiddiol, ond maen nhw bellach ar gael mewn amrywiaeth o liwiau, siapiau a meintiau.

PostItNotePad.JPG
Nodyn Post-it

Er i batent 3M ddod i ben yn 1997, mae lliw melyn nodweddiadol y nodau "Post-it", yn ogystal a'r enw, wedi'u cofrestru gan y cwmni fel nodau masnach. Er bod yr enw 'Post-it' yn cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at unrhyw fath o nodyn gludiog o'r math hwn, nid oes awdurdod cyfreithiol wedi cadarnhau bod y nod masnach yn generig.[a]

Arthur Fry gyda nody Post-it ar ei dalcen

Yn 1968, roedd Dr. Spencer Silver, gwyddonydd gyda 3M yn yr Unol Daleithiau, yn ceisio datblygu glud hynod o gryf. Yn hytrach, trwy ddamwain, fe ddyfeisiodd lud y gellid ei ailddefnyddio oedd yn sensitif i bwysau.[1][2][3] Yn anffurfiol a thrwy seminarau, bu Silver yn hyrwyddo ei 'ddatrysiad heb broblem' o fewn i'r cwmni am bum mlynedd, ond ni chafodd ei dderbyn. Yn 1974, cafodd cydweithiwr iddo, Art Fry, a oedd wedi mynychu un o'i seminarau, y syniad o ddefnyddio'r glud i angori nod llyfr yn ei lyfr emynau.[4][5] Aeth Fry yn ei flaen i sicrhau bod y syniad yn cael ei ddatblygu. Dewiswyd lliw melyn y nodau trwy ddamwain, gan mai dim ond papur scrap melyn oedd gan y labordy drws nesaf i'w gynnig i'r tîm 'Post-it'.[6]

Nodiadau golygu

  1. See 3M Company v. Professional Gallery, Inc., Opposition No. 91173411, 2014 WL 3686877 (Trademark Trial and Appeal Board 2014) (“The above evidence leaves us in no doubt that Post-it is a famous mark for sticky notes.”). Minn. Min. & Mfg. Co. v. Taylor, 21 F. Supp. 2d 1003, 1005 (D. Minn. 1998) (“3M owns a valid mark—"Post-it"...(this) mark is strong. [T]he evidence submitted is sufficient to establish the fame of the "Post-it" mark..”). Minnesota Mining and Manufacturing Company v. Dole (Trademark Trial and Appeal Board 1997) (“This record establishes ... the fame of opposer's Post-it mark.”). 3M Company (Republic of Turkey Turkish Patent Institute 2009) (“[I]t has been determined that the "Post-it" trademark is a "well known" trademark recognized broadly by everyone...”). 3M Company v. Ahmed, Opposition No.OP000402446 (United Kingdom Intellectual Property Office 2015). Minnesota Mining and Manufacturing Company v. D. Benito (Superior Court. Contentious, Madrid, Spain 2003). 3M Company v. Daval-Frerot (National Institute of Industrial Property, France 2016). 3M Norway AS v. Note-it AS, Opposition No. 200477 (Norwegian Board of Appeal for the Industrial Property Office 2005). 3M Company v. Xρηστοσ Λϵριδησ, Opposition No. B 002276247 (Office for Harmonization in the Internal Market (EUIPO) 2015). 3M Company v. Estates Indust. Co., Ltd., Invalidation No. 2013-890061, Control No. 1285551 (Japan Patent Office 2014).

Cyfeiriadau golygu

  1. "Post-It® Brand". 3m.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-02. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Donnelly, Tim (23 Awst 2012). "9 Brilliant Inventions Made by Mistake". Inc. Cyrchwyd 24 Awst 2012.
  3. "About Post-It® Brand". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-11. Cyrchwyd 2013-02-12. The Post-It® Note was invented as a solution without a problem: Dr. Spencer Silver developed a special, repositionable adhesive, but the 3M scientist didn't know what to do with his discovery. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Inventor of the Week: Art Fry and Spencer Silver". MIT. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-14. Cyrchwyd 2007-09-23. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  5. Petroski, Henry (1992). The Evolution of Useful Things. New York: Alfred A. Knopf. tt. 84–86. ISBN 0-679-41226-3. OCLC 24906856.
  6. "Why Are Post-It Notes Yellow?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-28. Cyrchwyd 2010-02-25. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)