Math o feirws peryglus ydy'r norofeirws, a adnabyddwyd cynt fel Norwalk agent ar ôl dinas Norwalk, Ohio, lle bu achos yn 1968. Mae'n perthyn i'r deulu o feirws o'r enw: feirws DNA ac mae'n achosi 90% o gastroenteritis ledled y byd, heb gyfri ymosodiadau gan facteria. Mae'n debygol ei fod yn achosi 50% o wenwyn bwyd yn Unol Daleithiau America. Mae'n effeithio pobol o bob oedran. Mae'n fwy tebygol i bobl gyda grwp-gwaed O gael eu heffeithio na grwpiau-gwaed B a AB. Bob blwyddyn mae'r Norofeirws yn effeithio ar rhwng 600,000 a miliwn o bobl o bob oedran yn y DU.

Norofeirws
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsongenws Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonCaliciviridae, Picornavirales Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n feirws sy'n datblygu drwy'r amser gan newid y ffordd mae'n amddiffyn ei hun. Mae rhai mathau sydd bellach yn imiwn i sebon golchi dwylo gwrth-septig a gwrthseptig.[1] Mae gwyddonwyr yn ceisio creu gwrth-firws i'w ddifa. Y llefydd gwaetha i'w ddal ydy mewn llongau pleser ac mewn ysbytai ac ysgolion.

Symptomau golygu

Rydych chi'n debygol o gael norofirws os ydych chi'n cael y symptomau isod:

  • teimlo'n sâl yn sydyn
  • chwydu'n wael
  • dolur rhydd llawn dŵr

Mae rhai pobl hefyd yn dioddef o dwymyn, cur pen, crampiau poenus yn y stumog a chyrff difrifol.

Mae'r symptomau'n ymddangos un i ddau ddiwrnod ar ôl i chi fynd yn heintiedig ac fel arfer mae'n para am hyd at 2 neu 3 diwrnod.[2]

Atal golygu

Mae norofeirws yn cael ei drosglwyddo’n hawdd iawn rhwng y naill berson a’r llall. Gallwch ei ddal drwy ddod i gysylltiad â rhywun sydd wedi’i heintio, drwy gyffwrdd ag arwynebau neu bethau sydd wedi’u halogi â’r feirws neu drwy gymryd bwyd a diod sydd wedi’u halogi. Nad oes modd osgoi cael eich heintio bob tro ond mae camau syml ac ymarferol y gallwch chi eu cymryd er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws:

  • golchi’ch dwylo ar ôl bod i’r tŷ bach a chyn cyffwrdd â bwyd
  • glanhau pob man lle mae bwyd yn cael ei baratoi, a’r holl offer a ddefnyddir i’w baratoi, cyn ac ar ôl iddynt gael eu defnyddio
  • golchi a choginio bwyd yn drwyadl[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. [Superbug resistant to hand-washing; Sunday Times, tudalen 7; dyddiad=12/02/2012.
  2. "norovirus". NHS. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |access-date= (help)
  3. "Norofeirws". Her Iechyd Cymru. 2012. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |access-date= (help)[dolen marw]