Northern Soul
Mae Northern Soul yn is-ddiwylliant cerddorol a dawns yn seiliedig ar recordiau gan grwpiau a chantorion Americanaidd duon. Fel arfer mae recordiau Northern Soul o'r 1960au gyda churiad cyflym yn addas ar gyfer dawnsio egnïol ac acrobataidd.
Dyddaid | 1970au |
---|---|
Lleoliad | Gogledd a chanolbarth Lloegr, Gogledd Cymru |
Gwreiddiau | Cerddoriaeth ddu Americanaidd Soul, R&B, Mød |
Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc, dosbarth gweithiol yng Ngogledd a Chanolbarth Lloegr a Gogledd Cymru yn y 1970au.
Datblygiad
golyguDatblygodd Northern Soul ar ddiwedd y 1960au. Arhosodd recordiau gyda geiriau ag enaid emosiynol, curiad dawns trwm a tempo cyflym yn boblogaidd yng nghlybiau dawns Gogledd Lloegr. Ni dilynwyd y ffasiynau diweddaraf wrth i steil cerddoriaeth Soul Americaniad newid gyda ffasiynau tua Funk a Disco.
Defnyddiwyd yr enw Northern Soul ar ddechrau'r 1970au i ddisgrifio'r dewis o recordiau a'r steil o ddawnsio mewn clybiau fel The Torch yn Stoke-on-Trent, y Twisted Wheel ym Manceinion, Blackpool Mecca ac yn bennaf The Wigan Casino.
Daeth recordiau sengl 7 modfedd prin o dechrau'r 1960au gan labeli bach nad oedd wedi bod yn llwyddiannau masnachol yn gasgliadwy iawn. Cystadlodd DJ's y clybiau i ddod o hyd i recordiau nad oedd neb arall wedi llwyddo cael gafael arnynt.[1][2][3]
Dawnsio
golyguDatblygodd steil o ddawnsio acrobataidd iawn wedi'i ysbrydoli gan grwpiau a chantorion fel Little Anthony & the Imperials a Jackie Wilson. Roedd y dawnswyr yn dawnsio'n unigol heb bartner neu hyd yn oed cymryd fawr o sylw o ddawnswyr o'u hamgylch. Yn wahanol i'r arfer ar gyfer pobl ifanc, y dawnsio oedd peth pwysicach y noson yn hytrach na chyfarfod cariadon. Hefyd yn groes i'r arfer, dynion oedd y dawnswyr mwyaf brwdfrydig a'r mwyafrif presennol.
Roedd sbinio yn rhan bwysig o'r steil dawns gyda'r dawnswyr gorau'n gwneud ciciau uchel, fflipiau a dropio i'r llawr yn acrobataidd iawn. Roedd y cyffur amffetamin (speed) yn gymorth i lawer o'r dawnswyr gael egni ychwanegol drwy'r nos a'r bore canlynol (roedd nosweithiau'r Wigan Casino, er enghraifft, yn mynd ymlaen tan 8am y bore canlynol).[4]
Dillad
golyguRoedd steil penodol o wisgo gyda dillad llydan yn gysylltiedig â'r gerddoriaeth. Y mwyaf nodweddiadol o'r steil oedd trowsus llydan 'Oxford Bags' - hyd at 30 modfedd o led. Hefyd roedd festiau, crysiau 'Ben Sherman', cotiau a sgertiau hir ac esgidiau lledr 'brogue' yn cael eu gwisgo. Roedd yr esgidiau 'brogues' gyda gwadnau lledr yn arbennig o addas ar gyfer llithro'r traed ar y llawr dawns bren. Weithiau roedd powdr talc yn cael ei daflu dros y llawr i'w wneud yn fwy llithrig.
Gan fod y nosweithiau dawnsio yn parhau dros nôs tan y diwrnod wedyn roedd y dawnswyr yn aml yn mynd a bag ar gyfer newid dillad gyda nhw. Addurnwyd y bagiau gyda bathodynnau crwn gydag enwau'r wahanol glybiau a symbol y dwrn du.
Adfywiad
golyguErbyn diwedd y 1970au roedd Northern Soul yn colli'i boblogrwydd a chynhaliwyd noson olaf y The Wigan Casino ym 1981. Mae'r gerddoriaeth a'r steil dawns wedi mwynhau adfywiad o ddiddordeb yn yr 21ain ganrif gyda ffilmiau fel Northern Soul (2014) a Soulboy (2010), rhaglenni dogfen, nosweithiau aduniadau ac hyd yn oed sîn Northern Soul ymhlith pobl ifanc yn Japan.[5]
Clasuron Northern Soul - detholiad y DJ Kev Roberts
golygu- Do I Love You (Indeed I Do) - Frank Wilson
- Out on the Floor - Dobie Gray
- You Didn't Say a Word - Yvonne Baker
- The Snake - Al Wilson
- Long After Tonight is Over - Jimmy Radcliffe
- Seven Day Lover - James Fountain
- You Don't Love Me - Epitome of Sound
- Looking for You - Garnet Mimms
- If That's What You Wanted - Frankie Beverly & the Butlers
- Seven Days Too Long - Chuck Wood
- The Right Track - Billy Butler
- Stick By Me Baby - Salvadors
- I Really Love You - Tomangoes
- Time Will Pass You By - Tobi Legend
- Landslide - Tony Clarke
- Too Late - Larry Williams & Johnny 'Guitar' Watson
- You Don't Know Where Your Interest Lies - Dana Valery
- Walking Up a One Way Street - Willie Tee
- If You Ever Walk Out of My Life - Dena Barnes
- There's a Ghost in My House - R. Dean Taylor[6]
Dewis DJ Richard Searling o'i hoff recordiau Northern Soul
golygu- The Salvadors: Stick By Me Baby - Wiseworld (1967)
- Chubby Checker: You Just Don't Know (What You Do To Me Girl) - Cameo Parkway (1965)
- Linda Jones: I Just Can't Live My Life (Without You Babe) - Warner Seven Arts 45 (1968)
- Gloria Jones: Tainted Love - Champion 45 (1965)
- Yvonne Baker: You Didn't Say A Word - Parkway 45 (1967)
- The Vel Vets: Got To Find Me Somebody - 20th Century 45 (1966)
- Marvin Gaye: Love Starved Heart (It's Killing Me) - Tamla 45 (1966)
- Tony Clarke: Landslide US'- Chess 45 (1966)
- The Charades: The Key To My Happiness - MGM 45 (1968)
- The Dells: Run For Cover - Cadet 45 (1968)[7]
Dolenni
golygu- Wigan Casino yn y 1970au ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=7Ygo4FbVluI
- Northern Soul ar Ynys Môn, ddoe a heddiw, ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=qSBkTlwTPjE
- Noson Northern Soul, Biwmares, 2011 ar Youtube: https://www.youtube.com/watch?v=3E21GMoGNHU
- Noson Northern Soul yn Neuadd y Dref Llandudno, 2008 ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=JJZZzveoY10
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-03. Cyrchwyd 2018-02-16.
- ↑ David Nowell, Too Darn Soulful: The Story of Northern Soul
- ↑ David Nowell The Story of Northern Soul, Anova Books, 1999, ISBN 1907554726, accessed 11 May 2014
- ↑ Andy Wilson. Northern Soul: Music, Drugs and Subcultural Identity
- ↑ http://www.independent.co.uk/travel/asia/japan-northern-soul-music-kobe-club-night-nude-restaurant-o-jays-never-forget-you-gonna-be-a-big-a7990431.html
- ↑ https://www.thoughtco.com/the-great-northern-soul-classic-songs-2523456[dolen farw]
- ↑ https://www.manchestereveningnews.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/wigan-casino-dj-richard-searling-7952521