Agor y brif ddewislen

Noson Guto Ffowc

Dathliad Noson Guto Ffowc neu Noson Tân Gwyllt ledled Prydain, 5 Tachwedd
Noson Tân Gwyllt

Dethlir Noson Guto Ffowc neu Noson Tân Gwyllt ledled Prydain ar y 5 Tachwedd bob blwyddyn. Ar y dyddiad hwn yn 1605 y ceisiodd cynllwynwyr Catholig, gan gynnwys Guto Ffowc, ddinistrio Palas San Steffan â ffrwydron. Roedd Guto'n aelod o grŵp a'u bwriad ar ladd y Brenin Iago'r 1af, ond methodd eu hymdrech pan daliwyd Guto tra roedd yn gwarchod y powdwr gwn yn seleri Tŷ'r Arglwyddi. Er mwyn dathlu'r ffaith fod y brenin yn dal i fyw taniwyd coelcerthi ledled Llundain, yn unol â thraddodiad yr oes.

Plant yn dathlu Noson Guto Ffowc yn y Waun ym 1954 (ffotograff Geoff Charles)

Mae'r arferiad o wneud "Gei", sef model o Guto Ffowc ei hun yn tarddu'n ôl i ddiwedd y 18g pan oedd plant tlawd yn gwneud arian poced drwy ddilorni'r model (pabyddol) hwn, ac o dipyn i beth daeth y 5ed o Dachwedd yn ganolbwynt i'r gweithgaredd. Collwyd yr arferion a'r casineb gwrth-babyddol erbyn cychwyn y 20g a thrôdd y weithgaredd yn un cymdeithasol.

Ceir cofnodion o 1607 o goelcerthi cyhoeddus yn cael eu cynnau yn Nghaerliwelydd, Norwich a Nottingham, gyda cherddoriaeth y ffrwydro cannons yn rhan o'r dathliadau. Yn Dorchester, a oedd yn dref Protestanaidd, darllenwyd pregeth, cynheuwyd coelcerthi a chanwyd y clychau.[1]

Codir coelcerthi a llosgir tân gwyllt gyda'r nos drwy wledydd Prydain, yn al mewn gerddi tai preifat neu mewn safleoedd cyhoeddus. Mae mwy a mwy o bobl eisiau cyfyngu'r arfer hwn, gan fod nifer yn cael eu hanafu. Bydd plant a bobl ifainc yn aml yn camddefnyddio'r tân gwyllt a'u taflu at bobl a hyd yn oed yn eu gwthio drwy flwch llythyron tai.

Coelcerthi G’langaea a Guto Ffowc

Wotton 5 Tachwedd 1685: it being an extraordinary wett morning first gunpowder conspiracy anniversary under a prince of the Roman religion [Iago’r II]. Bonfires forbidden on this day; what does that portend?[2]

Ond roedd coelcerthi i'w gweld o hyd ar noson Calan Gaeaf yng nghyfnod William Bulkeley:

31 Hydref 1736, Llanfechell, Mon: The Wind S. calm, dark, & overcast in the Morning, but. dry, about 12. it begun to rain, & rained more or less,(sometimes very hard) till 7 at Night. very few Coel-coeths [sic] to be seen this Night[3]

Difyr gweld bod yr hen arfer o gynneu coelcerthi ar noswyl G’lan Gaea yn dal ei dir yma yn Llanfechell yn 1736, neu bod yr hen arfer wedi dod yn ei ôl.
Tua 1606 fe basiwyd Deddf gan y Llywodraeth Protestanaidd ffwndamentalaidd oedd mewn grym ar y pryd i wahardd y coelcerthi G’lan Gaea traddodiadol am eu bod wedi cael yr esgus perffaith i wneud hynny. Roedd adlais gref iawn o baganiaeth yn gysylltiedig â G’lan Gaea, a phan ddaliwyd Guto Ffowch, yn ceisio rhoi bom dan Senedd Llundain ar Dachwedd y 5ed fe symudwyd y coelcerthi i’r dyddiad hwnnw, ac mae’n dal felly hyd heddiw.

Cofier mai ar y 5ed Tachwedd 1605 y daliwyd Guto a chafodd ei boenydio’n ddidugaredd cyn ei ddienyddio drwy ei grogi a’i dynnu’n ddarnau yn Ionawr 1606 – ddim ei losgi ar Dachwedd y 5ed fel mae rhai yn meddwl. Yn glyfar iawn o ran Llywodraeth y cyfnod roedd symud y coelcerthi i Dachwedd y 5ed yn cyflawni dau bwrpas: 1) Roedd yn slap ar wyneb arferion paganaidd G’lan Gaea gyda’r un llaw, 2) ac yn slap gyda’r llaw arall ar wyneb y Pabyddion drwy ddathlu ‘achubiaeth’ y deyrnas brotestanaidd oherwydd methiant y ‘Cynllwyn Powdwr Gwn’ yr oedd Guto Ffowc a Phabyddion eraill yn rhan ohonno. Dan yr amgylchiadau, mi newidiodd llawer o bobl eu coelcerthi i Dachwedd y 5ed – peth peryg iawn oedd peidio, ar boen cael eich cyhuddo o fod un ai yn bagan neu yn Babydd – mi fyddai gwrachod yn ogystal a Phabyddion yn cael eu llosgi yn y dyddiau duon a pheryglus hynny[4] Yn ôl Wikipedia, mae'r Gwyddelod yn cael coelcerthi ar 31ain Hydref. Ac roedd coelcerthi i’w gweld ar noson G'lanmai hefyd hanner canrif ar ôl cofnod William Bulkeley:

Llangollen 31 Hydref 1785: At seven we walked before our door and in the shrubbery to see the Bonfires, which in Commemoration of a Victory gained over the English are annually lighted on this night upon every Eminence in North Wales. From the Lawn on which We Stood saw nineteen Fires around us. One on the Eglwyseg, Pen-y-coed, Pengwern, Llantysilio, an Hill of the Empty Well, one large fire in the centre of Dinas Bran, three on the Berwyn, an immense one on the summit of Moel Mawr.[5]

Felly, yn ôl y cofnod hwn roedd yna reswm arall i gynnal coelcerthi ar noson G’langaea – ond beth oedd y fuddugoliaeth dros y Saeson oedd gan Foneddiges Llangollen dan sylw? Dyma ymateb un sydd wedi astudio hanes a sy'n dod o'r ardal: “Sir-y-Fflint, Wrecsam? Ochr Owain G, ar ôl ennill erbyn Sheriff Dinbych? neu Dafydd brawd Llewellyn gwythrhyfel a llosgi Castell Caergwrle a Penarlag? neu ar ôl ennill brwydr Waunyrwyddfid (Gwernaffield/Y Waun) tu allan Yr Wyddgrug? Heb dyddiad mae'n anodd gwybod.”[angen ffynhonnell]

Y tu hwnt i wledydd PrydainGolygu

Lledaenodd noson Guto Ffowc i diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd America ble'i gelwid yn "Ddiwrnod y Pâb" ond ni pharhaodd y traddodiad yno'n hir.

CyfeiriadauGolygu

  1. Sharpe, J. A. (2005), Remember, remember: a cultural history of Guy Fawkes Day; tudalen 87; cyhoeddwyd yn Llundain gan Harvard University Press, ISBN 0-674-01935-0
  2. John Evelyn: Faber Book of Diaries, Cyh. Faber
  3. Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Mon (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)
  4. Twm Elias ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56
  5. A Year with the Ladies of Llangollen, Gol. Elizabeth Mavor
  Eginyn erthygl sydd uchod am ŵyl neu ddathliad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.