Noson Lawen (ffilm)
Ffilm Gymraeg a wnaed yn 1949 yw Noson Lawen. Mae'n seiliedig ar stori gan Sam Jones, ac fe'i cyfarwyddwyd gan Marc Lloyd. Roedd yn serennu Meredydd Evans, Ieuan Rhys Williams, Nellie Hodgkins a Robert Roberts (Bob Tai'r Felin).
Cyfarwyddwr | G. Mark Lloyd |
---|---|
Cynhyrchydd | Brunner Lloyd & Co. Ltd. |
Serennu | Meredydd Evans Ieuan Rhys Williams Nellie Hodgkins Robert Roberts |
Dylunio | |
Dyddiad rhyddhau | 1949 |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Plot
golyguMae Ifan (Meredydd Evans), yn fab ffarm sy'n breuddwydio am yrfa academaidd. Mae ei dad (Ieuan Rhys Williams) ei fam (Nellie Hodgkins) a'i wraig Gwen (Meriel Jones) yn defnyddio eu holl arian bron i dalu iddo fynd i Brifysgol ond yn poeni ei fod wedi methu'r arholiadau am y byddai popeth wedi bod yn ofer. Wrth i dad Ifan gyfri'r arian am y cant a miled gwaith, mae'r bostfeistres (Emily Davies) yn cyrraedd gyda newyddion syfrdanol: roedd Ifan wedi pasio gyda llwyddiant mawr.
Ar ôl y seremoni, mae Ifan yn cyflwyno ei ffrindiau Emlyn (Cledwyn Jones) a Hywel (Robin Williams) i'w fam, dad a thaid bywiog (Robert Roberts (Bob Tai'r Felin) ). Yn y diwedd mae'r bechgyn yn dod i weithio ar y ffarm.
Mae parti yn dilyn, gydag Ifan, Emlyn a Hywel yn canu cân a gyfansoddwyd gan Meredydd Evans ei hunan (Mw Mw, Me Me, Cwac Cwac) ac yn enwi ei hunain yn Driawd y Buarth. Yna mae'r Taid yn dod ar y llwyfan a dechrau dawnsio o gwmpas fel dyn gwyllt gan ganu gyda llais anhygoel.
Cast
golygu- Ifan - Meredydd Evans
- Tad - Ieuan Rhys Williams
- Mam - Nellie Hodgkins
- Gwen - Meriel Jones
- Taid - Robert Roberts
- Emlyn - Cledwyn Jones
- Hywel - Robin Williams
- Postfeistres - Emily Davies