Mae Nychdod cyhyrol (MD neu Muscular dystrophy) yn gyflwr genetig (etifeddol) sydd yn raddol, gydag amser, yn peri i'r cyhyrau wanhau. Mae hyn yn arwain i lefel cynyddol o anabledd. Ceir nifer o wahanol fathau o MD, gyda gwahanol symptomau a phatrymau cynyddu. Nid yw pob math ar MD yn achosi anabledd difrifol, ond ar hyn o bryd nid oes iachâd i'r cyflwr.MD Duchenne yw'r ffurf fwyaf cyffredin a mwyaf difrifol o MD. Fel rheol mae'n effeithio ar fechgyn ac fe gaiff ei ddiagnosio tua thair blwydd oed. Mae'n cychwyn yng nghyhyrau'r coesau cyn symud yn gyflym i grwpiau eraill o gyhyrau.[1]

Nychdod cyhyrol
Enghraifft o'r canlynoldesignated intractable/rare disease, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathgenetic peripheral neuropathy, muscular disease, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)