Olaf Sigtryggsson

Aelod o deulu brenhinol Daniaid Dulyn oedd Olaf Sigtryggsson, hefyd Olaf Arnaid neu Olaf o Ddulyn (bu farw 1034). Cyfeirir ato fel Afloedd yn Historia Gruffud vab Kenan, ac Amlaíb mac Sitriuc mewn Gwyddeleg. Roedd yn daid i Gruffudd ap Cynan.

Olaf Sigtryggsson
Ganwyd11 g Edit this on Wikidata
Bu farw1034 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadSigtrygg Farf Sidan Edit this on Wikidata
MamSláine ingen Briain Edit this on Wikidata
PriodMáelcorce Ingen Dúnlaing Edit this on Wikidata
PlantRagnell Edit this on Wikidata
LlinachUí Ímair Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd Olaf yn fab i frenin Daniaid Dulyn, Sigtrygg Farf Sidan. Dywedir iddo ymgyrchu yn erbyn Gwynedd, ac ymddengys iddo feddiannu rhan o'r deyrnas am gyfnod tua'r flwyddyn 1000, gan adeiladu castell a elwid yn "Castell Bon y Dom" neu "Castell Olaf". Nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y castell yma; awgrymwyd Castell Bryn Gwyn ger Brynsiencyn neu leoliad gerllaw y Felinheli.

Llofruddiwyd Olaf yn Lloegr yn 1034, pan oedd ar bererindod i Rufain. Priododd ei ferch, Ragnell, a Cynan ap Iago o linach Aberffraw, a chawsant un mab, Gruffudd ap Cynan. Yn ôl Historia Gruffud vab Kenan:

Bonhed gruffud o barth y vam. gruffud vrenhin. m. raonell verch avloed vrenhin dinas dulyn a phymhetran ywerdon ac enys vanaw ... a mon a gwyned ene lle y gwnaeth avloed castell cadarn ae dom ae fos etwa yn amlwc ac aelwit castell avoled vrenhin. Yg kymraec hagen y gelwit bon y dom. Avloed enteu oed vab y sutric vrenhin ...[1]

Mewm gwirionedd, bu Olaf farw cyn ei dad, ac ni fu'n frenin Dulyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. D. Simon Evans, Historia Gruffud vab Kenan (Gwasg Prifysgol Cymru).