Olion Byw
Deuawd gwerin draddodiadol ydy Olion Byw, sef: Lucy Rivers a Dan Lawrence.[1] Rhyngddynt mae'r ddau gerddor yn chwarae cyfuniad o ffidil, gitar, mandolin a llais. Cenir caneuon traddodiadol Cymraeg, wedi'u trefnu'n fodern.
Eu halbwm cyntaf oedd "Hen Bethau Newydd";[2] sy'n cynnwys y caneuon: Lisa Lân, Ym Mhontypridd mae 'Nghariad, Doed a Ddêl a Gwyngalch Morgannwg. Recordiwyd a chynhyrchwyd yn Stiwdio Un, Caerdydd, 2010-2011.
Perfformiodd y grŵp yng Ngŵyl Tegeingl yn 2012.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan trac-cymru.org; adalwyd 25/11/2012.
- ↑ Gwefan Bandcamp; adalwyd 25/11/2012.