One Flew Over the Cuckoo's Nest (ffilm)

Ffilm ddrama Americanaidd o 1975 ydy One Flew Over the Cuckoo's Nest, a gyfarwyddwyd gan Miloš Forman. Addasiad yw'r ffilm o'r nofel 1962 o'r un enw gan Ken Kesey. Y ffilm hon oedd y cyntaf i ennill y pum prif gategori yng Ngwobrau'r Academi, (Ffilm Orau, Actor mewn Prif Rôl, Actores mewn Prif Rôl, Cyfarwyddwr, Sgript) ers It Happened One Night ym 1934. The Silence of the Lambs oedd y ffilm nesaf i wneud hyn, a hynny ym 1991. Yn aml, cyfeirir at One Flew Over the Cuckoo's Nest fel un o'r ffilmiau gorau erioed yn hanes sinema'r Unol Daleithiau. Ar restr IMDb o'r 250 ffilm gorau, mae'r ffilm hon ar rif 8.

One Flew Over the Cuckoo's Nest

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Miloš Forman
Cynhyrchydd Michael Douglas
Saul Zaentz
Ysgrifennwr Nofel:
Ken Kesey
Sgript:'
Lawrence Hauben
Bo Goldman
Serennu Jack Nicholson
William Redfield
Brad Dourif
Will Sampson
Danny DeVito
Scatman Crothers
Christopher Lloyd
Louise Fletcher
Cerddoriaeth Jack Nitzsche
Sinematograffeg Haskell Wexler
Golygydd Richard Chew
Sheldon Kahn
Lynzee Klingman
Dylunio
Cwmni cynhyrchu United Artists
Warner Home Video (fideo)
Dyddiad rhyddhau 19 Tachwedd 1975
Amser rhedeg 133 munud
Gwlad Unol Daleithiau America
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Bu fersiwn llwyfan cynt o'r llyfr ym 1963, ond nid yw'r ffilm yn defnyddio sgript y fersiwn llwyfan. Cafodd ei ffilmio yn Ysbyty Talaith Oregon, yn Salem, Oregon sef lleoliad y nofel.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ddrama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.