Oriel Genedlaethol yr Alban
Oriel gelf a leolir yng Nghaeredin yn yr Alban yw Oriel Genedlaethol yr Alban (Saesneg: National Gallery of Scotland). Mae ei chasgliad o gelfweithiau, yn dyddio o dua 1300 i tua 1900, yn cynnwys gweithiau gan Raffael, Titian, El Greco, Diego Velázquez, Rembrandt, Peter Paul Rubens, Jan Vermeer, J. M. W. Turner a llawer o'r Argraffiadwyr ac Ôl-Argraffiadwyr. Mae'r oriel yn un o blith llawer yn sefydliad Orielau Cenedlaethol yr Alban, sydd hefyd yn cynnwys orielau arbennig ar gyfer portreadau a chelf fodern.
![]() | |
Math | oriel gelf, amgueddfa genedlaethol ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1859 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Orielau Cenedlaethol yr Alban ![]() |
Lleoliad | Caeredin ![]() |
Sir | Dinas Caeredin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.9509°N 3.195661°W, 55.950902°N 3.195686°W ![]() |
Cod post | EH2 2EL ![]() |
Rheolir gan | Orielau Cenedlaethol yr Alban ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A ![]() |
Manylion | |
Lleolir y casgliad mewn adeilad glasurol ar The Mound, rhwng hen dref a thref newydd Caeredin, gan y pensaer William Henry Playfair. Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Tywysog Albert ym 1850, ac fe agorodd i'r cyhoedd ym 1859. Mae estyniad tanddaearol bellach yn cysylltu'r oriel ag adeilad Academi Frenhinol yr Alban.
LlyfryddiaethGolygu
- Clarke, Michael (2007). "Introduction". A Companion Guide to the National Gallery of Scotland. Edinburgh: National Galleries of Scotland. tt. 7–11.CS1 maint: ref=harv (link)
Dolenni allanolGolygu
- Gwefan swyddogol (Saesneg)