Orosaigh, Ynysoedd Allanol Heledd
Ynys fechan yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Orosaigh (Saesneg: Oronsay).
Math | ynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Allanol Heledd |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 57.662854°N 7.290597°W |
Saif y rhan fwyaf deheuol, sef Rubh' an Fhaing, tua hanner kilometr o arfordir ynys fwy Uibhist a Tuath, a gellir cerdded iddi ar lanw isel. Mae'r ynys fwy neu lai ar ffurf triongl, tuag un km a hanner o'r gorllewin i'r dwyrain ac 1 km o'r de i'r gogledd. Nid oes neb yn byw arni.