Mewn Jiwdo, techneg ar gyfer pinio'r gwrthwynebydd i lawr ar y mat ydy Osaekomi-waza (押さえ込み技). Mae saith prif dechneg o osaekomiwaza, ond mae gan bob un nifer o amrywiadau.

Sgorio golygu

Mae'r sgôr yn dibynnu ar yr amser rhwng dechrau'r techneg (osaekomi, 押さえ込み) a'r ddihangfa (toketa, 解けた):

  • 15+ eiliad (llai na 20) - yuko 有効
  • 20+ eiliad (llai na 25) - wazaari 技あり
  • 25 eiliad heb ddianc - ippon 一本 (ennill y gêm)

(Cyn 2009, derbyniai cyfnod rhwng 10 a 15 eiliad y sgôr koka 効果.)

Os yw'r chwaraewr sy'n gwneud yr "osaekomi" eisoes â sgôr wazaari, mae'n gallu ennill y gêm os cyrraedd 20 eiliad heb i'r gwrthwynebydd ddianc - datagana'r dyfarnwr wazaari awasete ippon - 技あり合わせて一本 - mae dau wazaari yn gwneud ippon.