Awdures o'r Almaen oedd Ottilie Assing (11 Chwefror 1819 - 21 Awst 1884) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, Ffeminist, diddymwr, a gwleidydd.

Ottilie Assing
Ganwyd11 Chwefror 1819 Edit this on Wikidata
Hamburg Edit this on Wikidata
Bu farw21 Awst 1884, 21 Tachwedd 1884, 1884 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd Ottilie Assing yn Hamburg. Hi oedd merch hynaf y bardd Rosa Maria Varnhagen a David Asssur, ffisegydd Iddewig a gofleidiodd Gristnogaeth wedi iddo briodi Roasa Varnhagen a newid ei gyfenw i Assing. Yn dilyn marwolaeth ei rhieni, aeth Ottilie Assing a'i chwaer Ludmilla i fyw gyda'u hewythr, y ffigwr llenyddol amglwg a'r gweithredydd chwyldroadol Karl August Vaarnhagen von Ense. Bu anghytuno chwyrn ar yr aelwyd, nes yn y diwedd gadawodd Ottilie. Yn 1852 ymfudodd Assing i'r Unol Daleithiau gan ymgartrefu yn Dinas Efrog Newydd, ac yna yn Hoboken, New Jersey. Datblygodd perthynas glos rhyngddi a'r awdur Frederick Douglass yn ystod cyfnod hir o gydweithio pan fu i Assing gyfieithu gweithiau Douglas i'r Almaeneg. Nid oedd yn ddynes iach; bu'n dioddef o gancr y fron a bu'n brwydro yn erbyn iseler am lawer o'i bywyd. Torrodd ei chalon pan glywodd bod Douglass wedi priodi Helen Pitts, gwraig ifanc a weithiai fel ysgrifenyddes iddo. Ym mis Awst 1864 lladdodd Assing ei hun trwy lyncu syanid mewn parc cyhoeddus ym Mharis. Yn ôl ei dymuniad yn ei hewyllys cafodd pob gohebiaeth rhyngddi a Douglass ei losgi."[1][2]

Gweithiau golygu

  • Ottilie Assing: Jean Baptist Baison. A Biography, 1851, Verlag Meissner & Schirges, 1851
  • Frederick Douglass: Slavery and freedom, Hamburg 1860. Digitalisat .
  • Christoph Lohmann: Radical Passion. Ottilie Assing's reports from America and letters to Frederick Douglass. Long, New York u. A. 1999, ISBN 0-8204-4526-6.

Cyfeiriadau golygu

  1. Mc Feely, William S. (1991). Frederick Douglass. New York: Norton and Company. t. 185. ISBN 0-393-02823-2.
  2. McFeely, William S. (1991). Frederick Douglass. New York: W.W. Norton and Company. t. 322. ISBN 0-393-02823-2.