Owen Thomas Jones

athro daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt

Daearegwr o Gymru oedd Owen Thomas (O T) Jones, FRS FGS (16 Ebrill 1878 - 5 Mai 1967).

Owen Thomas Jones
Ganwyd16 Ebrill 1878 Edit this on Wikidata
Beulah Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1967 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdaearegwr Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Cymdeithas Ddaearegol Llundain Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Medal Lyell, Medal Wollaston Edit this on Wikidata

Addysg golygu

Ganwyd ef ym Meulah, ger Castell Newydd Emlyn, Ceredigion, yn unig fab i David Jones a Margaret Thomas. Mynychodd yr ysgol bentref lleol yn Nhrewen cyn mynd i Ysgol Ramadeg Pencader ym 1893. Ym 1896 aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth i astudio ffiseg, gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf ym 1900. Yna aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt a derbyniodd radd BA mewn Gwyddorau Naturiol (daeareg) ym 1902.[1][2]

Gyrfa golygu

Ym 1903 ymunodd âg Arolwg Daearegol Prydain a mapiodd faes glo de Cymru ac ardaloedd cyfagos yn systematig. Roedd ei waith o bwysigrwydd i ddiogelwch y diwydiant glo yn Ne Cymru. Ysgrifennodd bapur gydag E. L. Davies ar symudiadau'r to dywodfaen wrth weithio'r wythïen lo Graigola yn ardal Abertawe ar y system piler a stâl. Mae yn y papur hwn ddisgrifiad o'r wythïen, y to, y llawr, y dull o weithio ac effaith tynnu allan y glo ar y to ac ar arwynebedd y pwll. Bu'r gwaith o bwysigrwydd gan fod y mwyafrif o'r damweiniau dan ddaear yn digwydd wrth y ffas lo trwy gwympau o'r to ac mae rheolaeth symudiadau'r to o'r pwysigrwydd pennaf.[3] Treuliodd ei amser rhydd yn ymchwilio i ddaeareg yr ardal o amgylch Ponterwyd. Yn 1910 dyfarnwyd iddo DSc (Cymru) a gwobr traethawd Sedgwick (Caergrawnt).[4] Ym 1910 penodwyd ef yn athro daeareg gyntaf Prifysgol Aberystwyth. Ym 1913 daeth yn athro daeareg ym Mhrifysgol Manceinion, ac yna, yn 1930, yn Athro Daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt (hyd 1943).[5] Bu yno nes iddo ymddeol ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd. Treuliai y rhan fwyaf o'i wyliau ym mro ei enedigaeth, ac ar ôl ymddeol bu'n gwneud gwaith ymchwil i geisio profi damcaniaeth oedd ganddo ynglŷn â sut y ffurfiwyd yr holl hafnau sydd yng nghwrs Afon Teifi rhwng Llanybydder a'r môr, rhywbeth sy'n nodweddiadol o Afon Teifi yn unig.[6] Rhoddodd ei fywyd gwaith i astudio daeareg Cymru. Roedd yn cyhoeddi papurau a thraethodau o bwys academaidd byd-eang, roedd hefyd yn cyhoeddi erthyglau a rhoi darlithoedd oedd yn ceisio egluro gwaith y daearegwr i'r bobl Gyffredin. Enghraifft o hyn oedd yr erthygl ddiwethaf iddo gyhoeddi cyn ei farwolaeth ar Gerrig Llwydion Carn Meini yn y Gwyddonydd yn disgrifio tarddle Cymreig cerrig gleision Côr y Cewri.[7]

Gwobrau ac anrhydeddau golygu

Yn 1926 etholwyd ef yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Ym 1956 dyfarnwyd iddo Fedal Frenhinol y Gymdeithas Frenhinol, ac ar ôl ei dderbyn fe'i disgrifiwyd fel 'daearegwyr mwyaf amryddawn Prydain'.[8] Yr un flwyddyn dyfarnwyd iddo Fedal Wollaston a Medal Lyell Cymdeithas Ddaearegol Llundain. Roedd ddwywaith yn llywydd y Gymdeithas Ddaearegol.

Teulu golygu

Ym 1910 priododd Ethel May, merch William Henry Reynolds Hwlffordd, bu iddynt dau fab a merch.

Marwolaeth golygu

Bu farw mewn cartref nyrsio yng Nghaergrawnt yn 89 oed ar ôl cynhyrchu mwy na 140 o gyhoeddiadau.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bowen, E. G., (1997). JONES, OWEN THOMAS (1878 - 1967), athro daeareg Woodward ym Mhrifysgol Caergrawnt. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 23 Gor 2019
  2. "Jones, Owen Thomas (JNS900OT)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
  3. Y GWYDDONYDD Cylchgrawn Gwyddonol CYFROL VII: RHIFYN 3: Tud 13: MEDI 1969; GWYDDONWYR O GYMRY: O. T. Jones gan W. Idris Jones adalwyd 23 Gorffennaf 2019
  4. Bassett, D. (2004, September 23). Jones, Owen Thomas (1878–1967), geologist. Oxford Dictionary of National Biography Adferwyd 23 Gor. 2019
  5. http://www.press.uchicago.edu/books/bowler/Bowler_ancillary_biographical_register.pdf
  6. Y GWYDDONYDD Cylchgrawn Gwyddonol CYFROL V: RHIFYN 3: Tud 13: MEDI 1967 Yr Athro Emeritus O. T. Jones adalwyd 23 Gorffennaf 2019
  7. Y Gwyddonydd: Cyf 4: Rhif 4: Tud 37: Rhagfyr 1966. Cerrig Llwydion Carn Meini gan O. T. JONES adalwyd 23 Gorffennaf 2019
  8. Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 428. ISBN 978-0-7083-1953-6.