Pab Bened XIII
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 19 Mai 1724 hyd ei farwolaeth oedd Bened XIII (ganwyd Pietro Francesco Orsini, wedyn Vincenzo Maria Orsini) (2 Chwefror 1649 – 21 Chwefror 1730).
Pab Bened XIII | |
---|---|
Ganwyd | Pietro Francesco Orsini 2 Chwefror 1649 Gravina in Puglia |
Bu farw | 21 Chwefror 1730 Rhufain |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, diacon, ffrier |
Swydd | pab, archesgob Catholig, cardinal, Archbishop of Manfredonia, Roman Catholic Archbishop of Benevento, Roman Catholic Bishop of Cesena |
Dydd gŵyl | 21 Chwefror |
Tad | Ferrante Orsini, 10th Duke of Gravina |
Mam | Giovanna Frangipani della Tolfa |
Llinach | Orsini |
Roedd Bened XIII yn aelod o Urdd y Dominiciaid a ganolbwyntiodd ar ei gyfrifoldebau crefyddol yn hytrach nag ar weinyddu'r babaeth. Nid oedd ganddo brofiad gwleidyddol, ac felly dibynnodd ar ei ysgrifennydd Cardinal Niccolò Coscia i weinyddu Taleithiau'r Babaeth. Dygodd Coscia symiau mawr o'r wladwriaeth; arweiniodd ei droseddau ariannol at gwymp trysorlys y babaeth.
Rhagflaenydd: Innocentius XIII |
Pab 19 Mai 1724 – 21 Chwefror 1730 |
Olynydd: Clement XII |