Pab Hormisdas
Sant Cristnogol a Phab Eglwys Rhufain o 514 i 523 oedd Hormisdas (450 – 6 Awst 523). Fe lwyddodd i aduno'r Eglwys Orllewinol a'r Eglwys Ddwyreiniol yn sgil y Sgism Acaciaidd (484–519).
Pab Hormisdas | |
---|---|
Ganwyd | 450 Frosinone |
Bu farw | 6 Awst 523 Rhufain |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, ysgrifennwr |
Swydd | pab, cardinal |
Dydd gŵyl | 6 Awst |
Priod | wife of Hormisdas |
Plant | Silverius |
Ganwyd i deulu cyfoethog yn Frosinone yn rhanbarth Lazio, yr Eidal. Fe briododd a chafodd fab, a ddaeth yn Bab Silverius (536–538). Cafodd Hormisdas ei benodi'n ddiacon gan y Pab Symmachus, a fe olynai'r pab hwnnw ar 20 Gorffennaf 514.
Dethlir ei ŵyl ar 6 Awst.