Pryd o fwyd o Wlad Thai yw pad thai. Mae'n cynnwys nwdls reis tro-ffriedig, ac mae'n boblogaidd fel bwyd stryd ac yn y mwyafrif o fwytai yng Ngwlad Thai a ledled y byd.[1] Mae'r cynhwysion fel arfer yn cynnwys nwdls reis, berdys, cyw iâr neu tofu, cnau daear, wyau wedi eu sgramblo, ac egin ffa. Bydd y rhain yn cael eu ffrio'n ysgafn mewn woc gyda saws pad thai.

Pad Thai

Cynhwysion golygu

Gwneir pad thai gyda nwdls reis sychedig wedi'u hail-hydradu sy'n cael eu tro-ffrio ag wyau a thofu cadarn wedi'i dorri, wedi'i flasu â mwydion tamarind, saws pysgod, berdys sychedig, garlleg neu sialóts, pupur chili coch a siwgr palmwydd. Caiff ei weini gyda sleisiau o leim a chnau daear wedi'u rhostio a'u torri.[2] Gall gynnwys llysiau eraill megis egin ffa, cennin syfi, radisys picl neu erfin, a blodau banana amrwd. Gall hefyd gynnwys berdys, cranc, môr-lewys, cyw iâr, cig moch, neu broteinau anifeiliaid eraill.

Mae nifer o'r cynhwysion yn cael eu darparu ar yr ochr fel cynfennau, megis y pupur chili coch, sleisiau leim, cnau daear wedi'u rhostio, egin ffa, sibols, ac amryw o lysiau ffres eraill.[3] Gall fersiynau llysieuol defnyddio saws soi yn lle'r saws pysgod, a hepgor y berdys yn llwyr.

Hanes golygu

 
Pad thai o stondin stryd yn Chiang Mai yng Ngogledd Gwlad Thai

Efallai cyflwynir nwdls reis wedi'u ffrio i Ayutthaya yn ystod amser y deyrnas Ayutthaya gan fasnachwyr Tsieineaidd[4], ac yna eu newid dros amser i adlewyrchu blasau Gwlad Thai.[5]

Mae'r awdur Mark Padoongpatt[6] yn honni nid yw pad thai yn bryd traddodiadol, dilys, sy'n mynd yn ôl cannoedd o flynyddoedd. Fe’i crëwyd mewn gwirionedd yn y 1930au yng Ngwlad Thai gan Plaek Phibunsongkhram, a oedd yn brif weinidog ar y pryd. Cafodd y pryd ei chreu oherwydd bod Gwlad Thai yn canolbwyntio ar adeiladu cenedl ar y pryd.[1] Felly fe greodd y pryd o fwyd hon gan ddefnyddio nwdls Tsieineaidd a'i galw'n pad Thai fel ffordd i sbarduno cenedlaetholdeb.[7]

Esboniad arall am darddiad pad thai yw bod Gwlad Thai, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi dioddef prinder reis oherwydd y rhyfel a llifogydd. Er mwyn lleihau'r defnydd o reis domestig, hyrwyddodd llywodraeth Gwlad Thai, o dan y Prif Weinidog Phibunsongkhram, defnydd o nwdls yn lle.[8] Hyrwyddodd y llywodraeth nwdls reis er mwyn helpu i sefydlu hunaniaeth Gwlad Thai.[1] O ganlyniad, crëwyd nwdls newydd o'r enw sen chan (a enwyd ar ôl y dalaith Chanthaburi). Ers hynny mae Pad thai wedi dod yn un o brydiau cenedlaethol y wlad.[9] Heddiw, mae rhai gwerthwyr bwyd yn ychwanegu porc neu gyw iâr (er nad oedd y rysáit wreiddiol yn cynnwys porc oherwydd amgyffrediad y llywodraeth taw cig Tsieineaidd oedd porc).[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Mayyasi, Alex (7 Tachwedd 2019). "The Oddly Autocratic Roots of Pad Thai". Gastro Obscura. Atlas Obscura. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2019.
  2. "Pad Thai-ผัดไทยกุ้งสด" (yn Thai). thaitable.com. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2013.
  3. "7-Steps to Properly Eating Pad Thai". luxevoyageasia.com. Cyrchwyd 29 Mai 2017.
  4. "The Truth About Pad Thai". BBC. 28 Ebrill 2015.
  5. "Pad Thai". Pad Thai Restaurant. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Chwefror 2013. Cyrchwyd 23 Chwefror 2013.
  6. Padoongpatt, Mark (September 2017). Flavors of Empire: Food and the Making of Thai America. American Crossroads (Book 45) (arg. 1st). Berkeley: University of California Press. ISBN 9780520293748. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2019.
  7. Belle, Rachel. "Why there are so many Thai restaurants in Seattle". My Northwest. KIRO Radio. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2019.
  8. Pungkanon, Kupluthai (13 Mai 2018). "All wrapped up and ready to go". The Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-12. Cyrchwyd 13 Mai 2018.
  9. Tapia, Semina (15 Awst 2011). "Thai National Foods". Ifood.tv. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-05. Cyrchwyd 23 Chwefror 2013.
  10. ไพวรรณ์, กฤษดา. "วัฒนธรรมการกิน : กินแบบชาตินิยมสมัยจอมพล ป. พิบูลสงคราม". Official of Art and Culture: Muban Chombueng Rajabhat University (yn Thai). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-15. Cyrchwyd 15 Mawrth 2018.