Paill
Powdr sy'n medru bod yn fân neu'n fras ac sy'n cynnwys meicrogametoffytau hadau'r planhigion, sy'n cynhyrchu'r gametau gwryw ydy paill. Mae gan gronynnau paill gragen galed sy'n amddiffyn y celloedd sberm yn ystod y broses o symud o'r briger i bistil planhigion sy'n blodeuo neu o'r côn i gôn benyw conwydd. Pan fo paill yn glanio ar bistil cydnaws, mae'n egino ac yn cynhyrchu peilldiwb sy'n trosglwyddo'r sberm i ofwl yr ofari. Mae gronynnau paill unigol mor fach mae angen eu chwyddo er mwyn medru eu gweld yn fanwl.