Pangu
Y bod cyntaf a chreawdwr y byd yn ôl mytholeg Tsieineaidd yw Pangu (Tsieineeg syml: 盘古; Tsieineeg draddodiadol: 盤古;ceir ffurfiau Rhufeinig eraill megis Pan Gu a P'an Ku). Pangu yw'r brif chwedl o gosmogoni'r Tsieineaid cynnar, ac mae'n debyg fe'i datblygodd o fytholeg yr oes gyn-Fwdhaidd. Dyddia'r straeon cynharaf o'r 3edd i'r 6g. Ffigur Daoaidd yw Pangu yn bennaf, ond sonir amdano hefyd ym mytholeg Fwdhaidd y Tsieineaid. Ceir amryw o ffynonellau sy'n anghytuno ar fanylion y chwedl, ond ym mhob un Pangu sy'n gyfrifol am wahanu'r ddaear o'r nef, gosod y sêr a'r planedau yn y wybren, a siapio'r moroedd, y dyffrynoedd a'r mynyddoedd. Yn unol â'r traddodiad Daoaidd, defnyddiodd Pangu egwyddor yinyang i greu'r bydysawd.
Dywed iddo dyfu o wy yn y caos cychwynnol, nes iddo ddeffro ac ymestyn ei hun, gan dorri'r wy. Mae'r wy cosmig yn thema sy'n gyffredin i nifer o fythau'r creu ar draws y byd. Cawr oedd Pangu, a chanddo dau gorn, dau ysgithr, a chorff blewog.[1] Cododd rhannau ysgeifn yr wy yn yr awyr, a ffurfiodd y rhannau trymion y ddaear. Noda cychwyn yr yin a'r yang, grymoedd croes y bydysawd, gan y broses hon. Tyfodd Pangu tua 10 troedfedd yn dalach pob diwrnod, am 18,000 o flynyddoedd, gan wthio'r awyr uwchben y ddaear. Treuliodd ei oes yn siapio'r byd gyda'i offer, nes iddo gymryd ei ffurf bresennol. Wedi blino, aeth Pangu i gysgu a bu farw.[2] Dyma'r hanes a geir yn y testun enwocaf sy'n adrodd chwedl Pangu, Sanwu Liji (3g).[3]
Mewn nifer o straeon animistaidd, daeth darnau'i gorff yn rhannau'r bydysawd wedi ei farwolaeth. Ffurfiodd ei esgyrn a'i ddannedd y creigiau a'r metelau; ei waed yr afonydd a'r môr; ei wallt y sêr; blew ei gorff y planhigion; ei lygaid y lleuad a'r yr haul; ei anadl y gwynt a'r cymylau; ei lais y taranau; ei wythiennau y ffyrdd a'r llwybrau; ei chwys y glaw a'r gwlith; a'i gnawd y pridd.[1][2] Yn ôl hanes y Shuyi Ji (6g) a thestunau eraill, trodd ei ben, breichiau, traed ac ystumog yn fynyddoedd sanctaidd sy'n marcio ffiniau'r byd.[2][3] Dywed ambell chwedl i fodau dynol esblygu o'r chwain ac arfilod eraill a heigiodd ar gorff Pangu.[1] Yn ôl mythau eraill, creodd Pangu fodau dynol o glai a'u gadael i'w crasu dan yr haul. Pan dechreuodd glawio, brysiodd Pangu i orchuddio'r cyrff clai, gan dorri rhai ohonynt sy'n esbonio pam bod rhai pobl yn anabl.[2]
Cawr oedd Pangu, ond fe'i bortreadir gan amlaf mewn celfyddyd Tsieina yn ddyn bach yn gwisgo croen arth neu ddail amdano, ac yn dal naill ai morthwyl a chŷn neu'r wy cosmig. Weithiau fe'i ddangosir yn defnyddio'i offer i greu'r byd, gyda chymorth y Pedwar Creadur Rhadlon: y Qilin (ungorn), y Xuanwu (crwban), y Fenghuang (ffenics), a'r Ddraig.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Pan Gu. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) "Pan Gu" yn Myths and Legends of the World (Macmillan, 2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 26 Rhagfyr 2016.
- ↑ 3.0 3.1 David Leeming. A Dictionary of Asian Mythology (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001), t. 35.