Pannu yw'r enw a roddir ar y broses o drom brethyn sydd newydd gael ei wehyddu. Defnyddir y term "Pandy" neu "Melin bannu" am yr adeilad lle gwneid y gwaith yma, ac mae Pandy yn enw gweddol gyffredin ar leoedd yng Nghymru.

Pannu yn yr Alban tua 1770

Mae'r brethyn yn cael ei grebachu, ei olchi a'i dewychu brethyn yn ystod y broses. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, defnyddid dŵr dynol ar gyfer pannu. Arferai pannwyr roi llestri allan yn y strydoedd i bobl wneud dŵr ynddynt er mwyn iddynt fedru ei ddefnyddio i bannu. Gosodid y brethyn ynddo, a byddai caethweision yn ei sathru.

Yn nes ymlaen, defnyddid pridd y pannwr a dŵr arferol ar gyfer y broses. Tua'r 14g, mecaneiddiwyd y broses i raddau.